Mae plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11. Bydd rhieni disgyblion ym mlwyddyn 6 yn Ysgolion Cynradd Caerdydd yn derbyn manylion am y broses ymgeisio.
Gallwch wneud cais am bob ysgol uwchradd gymunedol drwy ein system dderbyn ar-lein.
Rydym yn cynnal
derbyniadau cydgysylltiedig ar gyfer Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. I gael lle yn yr ysgolion hyn gallwch wneud cais drwy ein system dderbyn ar-lein.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Am rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyn i ysgolion:
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Y Broses ymgeisio
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2012 a 31 Awst 2013
Dydd Llun 25 Medi 2023
| Y broses o wneud cais i ddechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2024 yn cychwyn.
|
Dydd Llun 20 Tachwedd 2023
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried
yn gais hwyr.
|
Rhagfyr 2023 i Chwefror 2024
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.
|
Dydd Gwener 1 Mawrth 2024
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar
ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.
|
Dydd Gwener 15 Mawrth 2024
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
|
Ebrill 2024
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu. |
Mai 2024
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. Safleoedd Rhestr Aros ar gael.
|
Medi 2024
| Plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd.
|
Derbyniadau Cydlynol
Gallwch wneud cais ar gyfer yr ysgolion Ffydd a Sefydledig canlynol:
- Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd,
- Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant,
- Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi,
- Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, a
- Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog.
Bydd yn rhaid i chi gwblhau Ffurflen Ategol ar gyfer Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, y gallwch ei chael gan yr ysgol ei hun.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.