Mae’r cyfnod i wneud cais am le Ysgol Uwchradd ar gyfer 2021/22 ar gau.
(Roedd ceisiadau ar agor o ddydd Llun 28 Medi 2020 i ddydd Llun 23 Tachwedd 2020).
Mae plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd y mis Medi ar ôl eu pen-blwyddyn 11. Bydd rhieni disgyblion ym mlwyddyn 6 yn Ysgolion Cynradd Caerdydd yn derbyn manylion am y broses ymgeisio.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Canllaw i ddefnyddio'r system Derbyn Ar-lein (844kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Dyddiadau allweddol yn y broses ymgeisio
28 Medi |
Agor y broses ymgeisio |
23 Tachwedd |
Dyddiad cau y broses ymgeisio |
24 Tachwedd |
O'r dyddiad hwn rhaid i geisiadau hwyr gael eu cwblhau ar bapur. Ni fydd y system ar-lein ar gael. |
1 Mawrth 2021
|
Diwrnod Cynnig. Anfonir e-bost atoch ar ôl 10yb. Gallwn gyfleu penderfyniadau i chi dros y ffôn ar ôl 12yh. |
---|
Beth sy’n digwydd os ydych wedi methu'r dyddiad cau?
Os ydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le uwchradd bydd angen i chi gwblhau ffurflen cais hwyr. (428kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Cymorth i gwblhau eich cais ar-lein
Dewch i un o’n Hybiau Cynghori am gyngor ar lenwi’r ffurflen.
Awgrymiadau cyn ichi wneud cais
- Dylech ymweld ag ysgolion cyn cwblhau eich cais. Mae gan bob ysgol ei phrosbectws ei hun ac mae staff yn ddigon hapus i ddangos yr ysgol i rieni os gwnewch apwyntiad.
- Argymhellir yn gryf i chi gyflwyno eich cais yn brydlon. Os bydd eich cais yn hwyr, mae’n annhebygol y byddwch yn cael y lle o’ch dewis. Yn 2019 derbyniodd 50% o ysgolion fwy o geisiadau yn y rownd gyntaf na nifer y lleoedd oedd ar gael.
- Gallwch wneud cais ar gyfer 5 ysgol. Rydym yn argymell yn gryf i chi wneud cais ar gyfer 5 ysgol wahanol o’ch dewis.
Derbyniadau Cydlynol
Gallwch wneud cais ar gyfer unrhyw ysgol uwchradd gymunedol a’r ysgolion Ffydd a Sefydledig canlynol:
- Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd,
- Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, a
- Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi.
Bydd yn rhaid i chi gwblhau Ffurflen Ategol ar gyfer Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, y gallwch ei chael gan yr ysgol ei hun.