Mae plant yn dechrau yn y Dosbarth Derbyn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4. Bydd rhieni plant mewn Ysgol Feithrin yng Nghaerdydd yn cael manylion am y broses ymgeisio.
Rydym yn cynnal
derbyniadau cydlynol ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg. Gallwch wneud cais am le yn yr ysgol hon drwy ein system dderbyn ar-lein.
Negeseuon e-bost a llythyrau yn cynnig lle mewn ysgol
Byddwch yn derbyn eich cynnig naill ai drwy e-bost neu lythyr o ddydd Mawrth 19 Ebrill 2022.
Darllenwch Grynodeb o'r dyraniad lleoedd (181kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Byddwch yn cael un o’r cynigion canlynol:
Lle yn eich dewis cyntaf o ysgol
Bydd angen i chi dderbyn y cynnig hwn erbyn y dyddiad cau, sef dydd Mercher 4 Mai 2022.
Lle mewn ysgol o ddewis is
Mae hyn yn digwydd pan nad oes digon o le ar gael yn eich dewis cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr am y dewis is a gynigir, rydym yn eich annog yn gryf i dderbyn y cynnig hwn erbyn y dyddiad cau ac aros ar y rhestr aros am eich ysgol dewis uwch. Byddwch yn cadw eich hawl i apelio o hyd, hyd yn oed os byddwch yn derbyn cynnig is.
Dim cynnig
Bydd hyn yn digwydd pan nad oes gan unrhyw un o’ch dewisiadau ddigon o le er mwyn i ni wneud cynnig yn unol â’ch cais. Mae lleoedd amgen ar gael o hyd mewn ysgolion yng Nghaerdydd ar gyfer eich plentyn.
Rhaid i chi ymateb erbyn Dydd Mawrth 4 Mai 2022.
Gallwch:
Os na dderbyniwn eich ymateb erbyn 4 Mai 2022, byddwn yn cymryd nad ydych eisiau’r lle mwyach ac mae’n bosibl y tynnwn y cynnig yn ôl a’i roi i blentyn arall.
Ar ôl i chi dderbyn y lle, bydd yr ysgol yn cysylltu â chi gyda manylion ynghylch y trefniadau derbyn.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Os ydych wedi gwneud cais yn hwyr neu eich bod wedi gofyn am ohebiaeth drwy’r post, byddwch yn derbyn un o’r llythyron canlynol:
Am rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyn i ysgolion:
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Y Broses ymgeisio
Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2017 a 31 Awst 2018
15 Tachwedd 2021
| Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2022 yn cychwyn. |
10 Ionawr 2022
| Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried yn gais hwyr.
|
Chwefror i Ebrill 2022
| Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni. |
19 Ebrill 2022
| Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn. |
Ebrill 2022
| Creu rhestrau aros.
|
4 Mai 2022
| Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd. |
Mai 2022
| Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
|
Mehefin 2022
| Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. |
Medi 2022
| Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser.
|
Derbyniadau Cydlynol
Gallwch wneud cais ar gyfer pob ysgol gynradd gymunedol ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg.
Noder bod 15 o leoedd ysgol yn cael eu dyrannu gan ddefnyddio polisi Derbyn i Ysgolion 2022/23 y Cyngor a bod 15 lle arall yn cael eu dyrannu gan yr ysgol yn unol â’u polisi derbyn.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:
N
eu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.