Gallwch wneud cais ar-lein am le Dosbarth Derbyn yn 2020/21 o ddydd Llun 18 Tachwedd 2019.
Mae plant yn dechrau yn y Dosbarth Derbyn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 4. Bydd rhieni plant mewn Ysgol Feithrin yng Nghaerdydd yn cael manylion am y broses ymgeisio.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Canllaw i ddefnyddio'r system Derbyn Ar-lein (844kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Dyddiadau allweddol yn y broses ymgeisio
18 Tachwedd 2019 |
Agor y broses ymgeisio |
13 Ionawr 2020 |
Dyddiad cau y broses ymgeisio |
14 Ionawr 2020 |
O'r dyddiad hwn rhaid i geisiadau hwyr gael eu cwblhau ar bapur. Ni fydd y system ar-lein ar gael. |
16 Ebrill 2020 |
Diwrnod Cynnig. Anfonir e-bost atoch ar ôl 10yb. Gallwn gyfleu penderfyniadau i chi dros y ffôn ar ôl 12yh. |
---|
Cymorth i gwblhau eich cais ar-lein
Dewch i un o’n Hybiau Cynghori am gyngor ar lenwi’r ffurflen.
Awgrymiadau cyn ichi wneud cais
- Dylech ymweld ag ysgolion cyn cwblhau eich cais. Mae gan bob ysgol ei phrosbectws ei hun ac mae staff yn ddigon hapus i ddangos yr ysgol i rieni os gwnewch apwyntiad.
- Argymhellir yn gryf i chi gyflwyno eich cais yn brydlon. Os bydd eich cais yn hwyr, mae’n annhebygol y byddwch yn cael y lle o’ch dewis. Yn 2019 derbyniodd 50% o ysgolion fwy o geisiadau yn y rownd gyntaf na nifer y lleoedd oedd ar gael.
- Gallwch wneud cais ar gyfer 5 ysgol. Rydym yn argymell yn gryf i chi wneud cais ar gyfer 5 ysgol wahanol o’ch dewis.