Gall rhieni ofyn i newid ysgol eu plentyn unrhyw bryd, ond rhaid ystyried y mater yn ofalus.
Oni bai bod rhaid symud eich plentyn gan eich bod yn symud tŷ, argymhellwn yn gryf i chi drafod y mater gyda Phennaeth eich plentyn yn y lle cyntaf.
Cysylltu ag ysgol.
Mewngofnodwch i’r system Derbyn i ysgolion
Sut mae gwneud cais am le ysgol (862kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newyddTrafod y mater
Gall llawer o'r problemau y mae rhieni a phlant yn poeni amdanynt gael eu datrys heb orfod symud ysgol. Gallai siarad â'ch plentyn a staff ysgol eich plentyn ddatrys y broblem. Mae'n bwysig i chi ystyried ai symud ysgol yw'r dewis gorau i'ch plentyn mewn gwirionedd.
Disgyblion Blwyddyn 10 ac 11
Gallai fod rhesymau addysgol cryf dros beidio â symud disgyblion Blynyddoedd 10 ac 11 sydd eisoes wedi dechrau cyrsiau arholiadau. Lle bo cais yn ymwneud â disgybl ym mlwyddyn 10 neu 11, rhaid i chi gynnwys manylion y cyrsiau y mae eich plentyn wedi'u dewis. Gallai fod lle i'ch plentyn mewn ysgol arall , ond efallai na fydd cyrsiau eich plentyn ar gael.