Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Os Nad Ydym yn Gallu Cytuno

​​​​​Bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i ystyried beth y gallwch ei wneud os nad ydych yn fodlon ar y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer eich plentyn. Mae nifer o ffyrdd y gallwch helpu i atal problemau neu gamddealltwriaeth.

  • Dylech bob amser siarad â Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr ysgol cyn gynted â bod gennych unrhyw bryderon
  • Dylech rannu’r holl wybodaeth sydd gennych am eich plentyn â’r ysgol a’r gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’r achos
  • Dylech bob amser fynd i gyfarfodydd sy’n ymwneud â’ch plentyn
  • Dylech gadw mewn cysylltiad â’ch Swyddog Gwaith Achosion AAA yn y Tîm Gwaith Achos AAA

Swyddog Gwaith Achos AAA


Os ydych yn anghytuno ag unrhyw beth sy’n ymwneud â darpariaeth neu leoliad, dylech gysylltu â’ch Swyddog Gwaith Achos i gael eglurhad. Mae’r Swyddogion Gwaith Achos yno i’ch cynorthwyo chi a sicrhau bod eich barn yn cael ei chlywed.

Cymorth Annibynnol i Rieni


Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth Cymorth Annibynnol i Rieni lleol (sef SNAP Cymru ar hyn o bryd) a fydd yn gallu rhoi cyngor a chymorth i chi, gan gynnwys mynd i gyfarfodydd gyda chi​.

Datrys Anghytundebau neu Cyfryngu


Mae’n anodd dod i gytundeb weithiau. Gall y gwasanaeth datrys anghytundebau helpu rhieni, ysgolion a’r awdurdod addysg lleol pan fo anghydfod o ran y ddarpariaeth AAA trwy broses gyfryngu.

Bydd cyfryngwr yn cyfarfod â’r rhieni a staff yr ysgol neu’r awdurdod addysg lleol. Nid yw’r cyfryngwr o blaid y naill ochr na’r llall, ond bydd yn gwrando ac yn cael gwybod beth fu’n digwydd. Nod hyn yw dod o hyd i ateb ymarferol y gall pawb gytuno ag ef.

Mae datrys anghydfod yn ddi-dâl ac yn annibynnol ar bob parti, gan gynnwys ysgolion a’r awdurdod addysg lleol. Mae’n hollol gyfrinachol ac ar gael pan fo pob parti am ddod i gytundeb a felly datrys unrhyw anghytundeb. Cynigir datrys anghytundebau yng Nghaerdydd gan SNAP Cymru.

Gall rhieni sydd am wybod mwy am y gwasanaeth hwn siarad â’r Tîm Gwaith Achosion AAA drwy ffonio 029 20872731, neu gysylltu â SNAP Cymru drwy ffonio 0845 120 3730.

Y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig


Os ydych yn dal i fod yn anfodlon ar ôl mynd drwy’r broses gyfryngu, mae gennych yr hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Mae’r Tribiwnlys yn annibynnol a bydd yn ystyried apeliadau pan fydd rhieni yn anghytuno â phenderfyniadau’r cyngor lleol ar eu plentyn.

Gellir cyflwyno apelio o dan yr amgylchiadau canlynol:​

  • Os bydd y Cyngor yn gwrthod cynnal asesiad statudol o’ch plentyn (oni bai y cyflawnwyd asesiad yn ystod y chwe mis blaenorol)
  • Os bydd y Cyngor yn gwrthod gwneud datganiad ar ôl asesiad statudol
  • Os ydych yn anghytuno â Rhan 2, 3 neu 4 o ddatganiad eich plentyn pan gaiff y datganiad ei lunio neu os caiff ei newid yn ddiweddarach
  • Os bydd y Cyngor yn gwrthod cyflawni ail-asesiad statudol
  • Os bydd y Cyngor yn penderfynu terfynu datganiad sy’n bodoli eisoes











Ceir canllawiau llym o ran apelio i’r Tribiwnlys AAA, er mwyn sicrhau nad yw apeliadau yn achosi unrhyw oedi o ran unrhyw help arbennig sydd ei angen ar blentyn. Rhaid i riant gyflwyno apêl o fewn dau fis o benderfyniad y Cyngor.

Os ydych yn penderfynu apelio i’r Tribiwnlys AAA, dylech roi gwybod i’r Swyddog Gwaith Achos cyn gynted â phosibl a pharhau i drafod eich pryderon.

Rydym o’r farn ei bod yn bwysig iawn i weithio mewn partneriaeth, ac i bob rhiant rannu eu barn yn agored er mwyn ceisio dod i gytundeb lle bynnag y bo’n bosibl.


Pwy y gallaf gysylltu â hwy os oes angen help neu gymorth pellach arnaf?


Am ragor o wybodaeth gallwch gysylltu ag unrhyw un o’r isod:
Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn Ysgol neu Lleoliad eich plentyn. Cysylltwch â swyddfa’r ysgol i gael gwybod pwy yw Cydlynydd ADY ysgol eich plentyn.

Eich Swyddog Gwaith Achos, sy’n aelod o’r Tîm Gwaith Achos AAA yn Neuadd y Sir
Ffôn: 029 20872731

SNAP Cymru sy’n cynnig gwasanaeth annibynnol partneriaeth â rhieni. 
Ffôn​: 0845 120 3730

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig

Cymru Government Buildings
Spa Road East
Llandrindod Wells
Powys
LD1 5HA

Ffôn: 01597 829800​
© 2022 Cyngor Caerdydd