Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Beth yw Nodyn yn lle Datganiad?

​​​​​​​​​​‘Nodyn yn lle Datganiad yw'r term swyddogol a ddefnyddir yng Nghod Ymarfer AAA Cymru.

Ar ôl cwblhau asesiad statudol, mae gan Gyngor Caerdydd bythefnos i benderfynu p’un a ddylid gwneud datganiad​ o Angen Addysgol Arbennig. Os dengys y broses asesu y gellir parhau i ddiwallu anghenion eich plentyn trwy’r cynllun Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy, gall y Cyngor benderfynu cyflwyno Nodyn yn lle Datganiad.

Mae rhieni yn aml yn siomedig pan na wneir datganiad yn dilyn asesiad statudol, ac yn poeni bod hyn yn golygu na chaiff eu plentyn y cymorth sydd ei angen arnynt.
Nid dogfen gyfreithiol mo’r Nodyn yn lle Datganiad ond cyngor defnyddiol am anghenion eich plentyn a sut y gellir eu cefnogi yn yr ysgol. Nid yw o angenrheidrwydd yn golygu na roddir cymorth ychwanegol iddo ond mae’n golygu y gellir rhoi’r cymorth heb ddatganiad.

​​Yn aml bydd y panel AAA yn trefnu bod un neu ragor o'r timau arbenigol yn gweithio gyda’r ysgol er mwyn gallu cynnig mwy o gymorth, un ai drwy roi hyfforddiant neu gyngor ychwanegol ar sail y wybodaeth yn yr asesiad statudol.

Pwy all roi cymorth a chefnogaeth i mi?


Os ydych chi o’r farn bod y penderfyniad i roi Nodyn yn lle Datganiad yn anghywir, siaradwch â'ch Swyddog Gwaith Achos AAA ar 029 20872731.

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwasanaeth partneriaeth rhieniol annibynnol a gellir cysylltu â hwy ar 0845 120 3730.

Bydd ysgol eich plentyn hefyd yn gallu rhoi help a chymorth. Mae gennych hefyd hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Os ydych yn ystyried yr opsiwn hwn, cysylltwch â ni ar 029 22330711.

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd