Os penderfynir bod angen Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig ar eich plentyn ar ôl cynnal asesiad statudol, byddwch yn cael datganiad a gynigir o fewn pythefnos i wneud y penderfyniad. Fersiwn drafft o’r datganiad terfynol fydd hwn. Byddwch hefyd yn cael copi o’r cyngor a gasglwyd yn ystod yr asesiad. Dyma’r cyngor a ddefnyddiwyd i ysgrifennu’r datganiad arfaethedig.
Ar ôl cael y datganiad arfaethedig, dylech ei ddarllen yn ofalus iawn. Os bydd unrhyw beth na fyddwch yn ei ddeall dylech gysylltu â’ch Swyddog Gwaith Achos AAA. Nodir enw’r Swyddog yn y llythyr a atodir i’r datganiad arfaethedig.
Mae chwe rhan i ddatganiad.
Rhan 1 - manylion sylfaenol fel enw a chyfeiriad eich plentyn. Mae hefyd yn nodi pwy sydd wedi rhoi cyngor yn ystod yr asesiad.
Rhan 2 - crynodeb manwl o anghenion addysgol arbennig eich plentyn.
Rhan 3 - mae’r rhan hon yn disgrifio’r cymorth a roddir i ymdrin ag anghenion addysgol arbennig eich plentyn. Mae’n nodi amcanion a’r hyn a gaiff ei ddarparu er mwyn galluogi i’r amcanion hynny gael eu cyflawni. Mae Rhan 3 hefyd yn cynnwys sut y caiff cynnydd eich plentyn ei fonitro.
Rhan 4 - mae’r rhan hon yn nodi’r lleoliad addysg gynnar neu’r ysgol y bydd eich plentyn yn mynd iddi i gael y cymorth a nodwyd yn Rhan 3. Nid yw’r datganiad a gynigir yn nodi ysgol yn Rhan 4. Dim ond yn y datganiad terfynol y caiff yr ysgol ei henwi gan ein bod am glywed eich barn chi cyn gwneud penderfyniad.
Rhan 5 - mae’r rhan hon yn disgrifio unrhyw anghenion sydd gan eich plentyn nad ydynt yn rhai addysgol, er enghraifft anghenion iechyd.
Rhan 6 - mae’r rhan hon yn disgrifio sut y bydd eich plentyn yn cael y cymorth a nodir yn Rhan 5.
Beth i’w wneud pan fyddwch yn cael datganiad
Mae gennych 15 o ddiwrnodau gwaith (tair wythnos) i’r dyddiad y byddwch yn cael y datganiad arfaethedig i roi sylwadau a nodi pa ysgol yr hoffech i’ch plentyn fynd iddi. Os na fyddwn yn clywed gennych yn ystod yr amser penodedig, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn fodlon ar y cynigion.
Os byddwch yn anghytuno ag unrhyw ran o’r datganiad arfaethedig gallwch ofyn i ni wneud newidiadau. Rhaid i chi gyflwyno eich pryderon yn ysgrifenedig neu gallwch ofyn am gyfarfod i’w trafod. Cofiwch, bydd angen i chi gyflwyno’r rhain o fewn 15 diwrnod gwaith.
Os cynhelir cyfarfod, bydd gennych hawl i 15 diwrnod gwaith arall (tair wythnos) i wneud sylwadau pellach neu ofyn am gyfarfod arall. Os bydd anghytundeb o hyd ar ôl y cyfarfod hwn yna bydd gennych 15 diwrnod gwaith terfynol i wneud sylwadau pellach.
Bydd eich Swyddog Gwaith Achos AAA ar gael i gynnig cymorth a chyngor yn ystod y broses. Bydd ysgol eich plentyn hefyd yn gallu rhoi help a chymorth. Hefyd, ceir Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Annibynnol ac mae eu manylion cyswllt yng nghefn y llyfryn hwn.
Datganiad Terfynol
Unwaith y bydd y datganiad terfynol wedi’i baratoi, mae’n ddogfen gyfreithiol sy’n nodi anghenion addysgol arbennig eich plentyn a’r math o help a chymorth arbennig y bydd ei angen ar eich plentyn mewn lleoliad addysgol. O ddyddiad y Datganiad Terfynol, rhaid i ni sicrhau bod gan ysgol eich plentyn unrhyw adnoddau ychwanegol a nodir yn y datganiad.
Fel arfer, cyhoeddir y Datganiad Terfynol o fewn wyth wythnos i gyhoeddi’r Datganiad Arfaethedig. Gall fod yr un peth â’r Datganiad Arfaethedig neu efallai y bydd wedi newid o ganlyniad i drafodaethau a gafwyd rhyngom ni a chi. Bydd Rhan 4 wedi’i chwblhau yn nodi’r ysgol y bydd eich plentyn yn mynd iddi.
Bydd ysgol eich plentyn a’r rheini a oedd yn rhan o’r Asesiad Statudol hefyd yn cael copi o’r Datganiad Terfynol yn ogystal â chopi o’r holl gyngor a ddefnyddiwyd i ysgrifennu’r datganiad. Os na fyddwch wedi llwyddo i ddod i gytundeb ynglŷn â chynnwys y Datganiad Terfynol, bydd gennych hawl i ddefnyddio’r gwasanaeth datrys anghytundebau neu apelio i Dribiwnlys AAA Cymru. Anfonir manylion sut i apelio
gyda'r Datganiad Terfynol.
Pwy y dylwn gysylltu â nhw am help neu gymorth pellach?
- Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)yn Ysgol neu Lleoliad eich plentyn.
- Eich Swyddog Gwaith Achos, sy’n aelod o’r Tîm Gwaith Achos AAA yn Neuadd y Sir Ffôn: 029 20872731
- SNAP Cymru sy’n cynnig Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Annibynnol Ffôn: 0845 120 3730