Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth Ysgol i blant a phobl ifanc ag Anghenion Addysgol Arbennig

​​​​​​
Os nad yw eich plentyn yn gwneud y cynnydd y disgwylir ​​ohono, gallai fod angen cymorth ychwanegol arno. Dylai’r ysgol neu’r Lleoliad Blynyddoedd Cynnar bob amser ddweud wrthych os yw’n rhoi cymorth ychwanegol neu gymorth gwahanol i’ch plentyn. Bydd yr ysgol yn monitro cynnydd eich plentyn ac yn rhoi gwybod i chi am hynt eich plentyn. Dylai’r ysgol hefyd ofyn am eich barn chi a’ch plentyn am y cynnydd mae’n ei wneud.

‘Gweithredu Gan yr Ysgol’ yw’r enw ar y math hwn o gymorth, neu, os yw’ch plentyn mewn Meithrinfa neu ddosbarth Derbyn, ‘Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar’. Dylai’r cymorth ychwanegol gael ei gynllunio mewn Cynllun Addysg Unigol (CAU) a gaiff ei rannu â chi. Bydd y CAU yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • Targedau, neu'r hyn y mae angen i’ch plentyn ei ddysgu 
  • Help a strategaethau, neu sut y caiff eich plentyn ei addysgu
  • Pwy fydd yn helpu eich plentyn 
  • Pryd y caiff y cynllun ei adolygu (dylai hyn ddigwydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Mewn nifer o ysgolion caiff ei adolygu bob tymor)





Mae’r rhan fwyaf o blant sy’n cael cymorth o’r fath yn gwneud cynnydd da a dim ond am gyfnod y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt, ond bydd Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar neu Gweithredu Gan yr Ysgol yn parhau nes nad oes eu hangen mwyach.


Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy a Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy


Os nad yw eich plentyn yn gwneud digon o gynnydd gyda Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar neu Gweithredu Gan yr Ysgol, gall yr ysgol ofyn am ragor o help a chyngor gan wasanaeth arall. Gallai hyn fod ar ffurf gwasanaeth athro arbenigol, y gwasanaeth seicoleg addysg neu wasanaeth iechyd fel therapi iaith a lleferydd. Yr enw ar hyn yw ‘Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy’ neu ‘Gweithredu Gan yr Ysgol a Mwy’. 

Bydd yr ysgol yn dal i bennu targedau a monitro cynnydd ac yn dal i roi cymorth i’ch plentyn dan y rhaglenni hyn nes nad oes ei angen mwyach. Eto, dylai’r ysgol bob amser siarad â chi am y camau y mae’n eu cymryd i helpu’ch plentyn, a rhoi gwybodaeth i chi am ei gynnydd.

Os oes pryderon o hyd fod angen mwy o gymorth ar eich plentyn na all yr ysgol ei gynnig gyda help a chyngor ychwanegol gan wasanaethau eraill, gallwch ofyn i’r Cyngor ystyried cynnal asesiad statudol o anghenion eich plentyn.

Manylion cyswllt i gael rhagor o help neu gymorth?


  • ​Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn Ysgol neu Lleoliad eich plentyn.
  • SNAP Cymru sy’n cynnig Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Annibynnol. Ffôn: 0845 120 3730.


© 2022 Cyngor Caerdydd