Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Canllawiau i rieni a gofalwyr

​​​​
​​​
​Rhaid i Gyngor Caerdydd adolygu Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig eich plentyn o leiaf unwaith y flwyddyn, a phob chwe mis os yw eich plentyn dan 5 oed. Gellir gwneud adolygiadau’n gynnar yn ôl yr angen.

Mae’r Adolygiad Blynyddol yn gyfarfod a gynhelir yn ysgol neu leoliad blynyddoedd cynnar eich plentyn fel arfer. Mae pawb sy’n gweithio gyda’ch plentyn yn cael gwahoddiad i ddod i’r cyfarfod neu anfon sylwadau ysgrifenedig. Y Pennaeth neu ei gynrychiolydd fydd yn cadeirio’r cyfarfod ac yn anfon adroddiad ar yr adolygiad i’r Tîm Gwaith Achosion AAA.

Mae’r Adolygiad Blynyddol yn gyfle i chi a’ch plentyn rannu’ch barn â’r ysgol neu’r lleoliad blynyddoedd cynnar a’r Cyngor.


Gwneir y canlynol yn y cyfarfod:

  • Cofnodi unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’ch plentyn
  • Ystyried cynnydd eich plentyn a ph’un a yw’r Datganiad yn dal i fod yn briodol i anghenion eich plentyn
  • Pennu targedau newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf i’w defnyddio i ddiweddaru’r Cynllun Addysg Unigol (CAU)






Gallwch ofyn am gymorth gan SNAP Cymru i’ch helpu i gwblhau ffurflenni, edrych ar adroddiadau a mynd i’r Adolygiad Blynyddol gyda chi.

Pwy fydd yn dod i’r cyfarfod?


Bydd yr ysgol yn eich gwahodd chi, eich plentyn lle y bo’n bosibl, pobl sydd wedi gweithio gyda’ch plentyn, unrhyw weithwyr proffesiynol fu’n rhan o’r gwaith, cynrychiolydd o’r Cyngor ac unrhyw un arall rydych chi neu’r ysgol o’r farn y gallai roi gwybodaeth neu gyngor defnyddiol. Mae’n bwysig iawn i chi fynd i Adolygiad Blynyddol eich plentyn.

A fydd unrhyw waith papur?


Gofynnir i bawb y mae’r ysgol yn eu gwahodd i’r cyfarfod gyflwyno adroddiad os yw’n briodol. Caiff adroddiadau eu dychwelyd i’r ysgol fel y gall yr ysgol ddosbarthu copïau bythefnos cyn y cyfarfod. Mae’n bwysig i chi gwblhau’r ffurflen sy’n gofyn am eich barn a’i dychwelyd i’r ysgol neu lleoliad. Dylech roi barn eich plentyn hefyd os yn bosibl.

Beth fydd yn digwydd yn y cyfarfod?


Trafodir cynnydd eich plentyn a chaiff gwybodaeth ei rhannu. Gallwch holi cwestiynau neu ofyn am eglurhad os ydych yn ansicr o unrhyw beth sy’n cael ei ddweud. Gofynnir i chi rannu eich barn, a gaiff ei hystyried a’i chofnodi. Dylai’r adolygiad orffen â set glir o dargedau y gall yr ysgol a’ch plentyn weithio arnynt hyd at yr adolygiad nesaf.


Adolygiadau ym Mlynyddoedd Un, Pump a Naw​


Gelwir yr adolygiadau hyn yn ‘adolygiadau pontio’. Bydd ​adolygiad Blwyddyn 1 yn ystyried pontio i’r ysgol iau ar ddiwedd Blwyddyn 2. Dylid cynnal yr adolygiad ym Mlwyddyn 5 yn nhymor yr haf, gan ystyried pontio i’r ysgol uwchradd ar ddiwedd Blwyddyn 6. Cynhelir yr adolygiad ym Mlwyddyn 9 i wneud argymhellion a chynlluniau i’ch plentyn pan fydd yn oedolyn.

Beth sy’n digwydd ar ôl yr Adolygiad Blynyddol? 


Caiff adroddiad ar y cyfarfod, sy’n crynhoi’r hyn a gaiff ei ​ddweud a chan gynnwys unrhyw argymhellion, ei anfon i’r Cyngor, ynghyd â’r holl adroddiadau a gyflwynwyd i’r adolygiad. Caiff pawb a aeth i’r cyfarfod gopi. Bydd y Cyngor yn cysylltu â chi i roi gwybod a yw’n cytuno â’r argymhellion.

Os oes angen gwneud unrhyw newidiadau, bydd y Cyngor yn ymgynghori â chi o ran diwygio’r datganiad. Cewch yr un cyfleoedd i roi eich barn a chwrdd i siarad â ni, fel y cawsoch pan luniwyd y datganiad yn gyntaf.


Pwy y dylwn gysylltu â nhw am help neu gymorth pellach?


  • ​Y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn Ysgol neu Lleoliad eich plentyn
  • Eich Swyddog Gwaith Achos, sy’n aelod o’r Tîm Gwaith Achos AAA yn Neuadd y Sir Ffôn: 029 20872731
  • ​SNAP Cymru sy’n cynnig Gwasanaeth Annibynnol Partneriaeth â Rhieni Ffôn: 0845 120 3730


© 2022 Cyngor Caerdydd