Siaradwch ag athro/athrawes eich plentyn - Os ydych chi'n credu fod gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) siaradwch ag athro neu Gydlynydd ADY eich plentyn. I gael rhagor o fanylion a gwybodaeth,
gwyliwch y canllaw fideoDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Ceisiwch greu Cynllun Datblygu Unigol (CDU) gyda'ch gilydd - Os yw'r ysgol yn cytuno â chi bod gan eich plentyn ADY, bydd yr ysgol yn gweithio gyda chi a'ch plentyn i greu CDU. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch CDUau gweler ein tudalen CDUau - Canllaw i DdysgwyrDolen yn agor mewn ffenestr newydd .
Trafodwch unrhyw bryderon gyda'r ysgol neu'r awdurdod lleol - Os nad yw'r ysgol yn cytuno bod gan eich plentyn ADY, neu os ydych yn anfodlon â chynllun datblygu unigol eich plentyn, trafodwch y mater gyda'r ysgol neu'r awdurdod lleol. Gallwch gysylltu â'r awdurdod lleol drwy Linell Gymorth a Chyngor ADY.
Gallwch gael mynediad at eiriolwr - Os yw'r awdurdod lleol yn cytuno â'r ysgol ond eich bod yn dal yn anhapus, gall eich cyfeirio at wasanaethau eirioli annibynnol fel SNAP Cymru. Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Annibynnol SNAP Cymru - Ffôn: 0808 801 0608.
Mae gennych hawl i apelio - Mae gan bob plentyn a pherson ifanc a'u rhieni neu ofalwyr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau i Dribiwnlys Addysg Cymru (TAC).
Ymwelwch â
gwefan Gwasanaethau Addysg CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
Llinell Gymorth Rhieni a Gofalwyr: 02920 872 731