Ymarfer a Chyfranogiad Sy'n Canolbwyntio ar Unigolion (Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion)
Mae Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion yn ffordd o gydweithio a chyfathrebu'n gadarnhaol â'i gilydd, bob amser gyda'r plentyn neu'r person ifanc wrth wraidd y broses.
Bydd barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu'r person ifanc wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.
Mae Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion yn cynnwys defnyddio amrywiaeth o wahanol offer a dulliau i ddatblygu cynllun datblygu unigol (CDU) y plentyn neu berson ifanc.
Yr hyn i feddwl amdano
- Meddyliwch yn bositif – pa gryfderau sydd gan eich plentyn?
- Meddyliwch am eich plentyn yn yr ysgol a thu allan iddi.
- Beth yw eich nodau ar gyfer eich plentyn a beth sy'n bwysig iddo?
Beth i'w ddisgwyl
- Gwerthfawrogir barn pawb, gan fod pob un ohonom yn cael y cyfle i rannu ein meddyliau a'n teimladau.
- Dull hamddenol ac anffurfiol.
- Rydym yn gobeithio dysgu pethau newydd am beth mae'ch plentyn yn ei feddwl a'i deimlo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu gyda'n gilydd yn helpu i gynllunio ein camau nesaf.
- Mae ein trafodaethau yn cael eu cofnodi mewn ffordd weledol ac rydym i gyd yn deall sut y byddwn yn helpu i symud pethau ymlaen.
- Yn nes ymlaen, byddwn yn siarad gyda'n gilydd am sut mae'r cynllun yn gweithio.
Ymwelwch â Gwefan Gwasanaethau Addysg CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth ynghylch Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion.
Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU)
Caiff Cynllun Datblygu Unigol ei lunio drwy gydweithio â'r plentyn a'r rhiant/gofalwr neu'r person ifanc mewn partneriaeth ag asiantaethau ehangach a allai fod yn gysylltiedig fel gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Bydd y cynllun datblygu unigol yn dweud beth sydd angen i'r plentyn neu'r person ifanc allu ei ddysgu, gan nodi:
- beth sy'n bwysig i chi ac iddyn nhw;
- disgrifiad o'u hanghenion dysgu ychwanegol; a
- beth fydd yn cael ei wneud er mwyn iddyn nhw gael y cymorth priodol yn yr ysgol neu'r coleg a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd ei hangen i ddiwallu eu hanghenion dysgu ychwanegol.
Bydd y cynllun hwn yn cael ei adolygu o leiaf bob deuddeg mis.
Gall CDU gael ei greu a'i oruchwylio gan ysgolion, colegau neu'r Awdurdod Lleol. Waeth pwy sy'n cynnal y CDU, mae'n parhau i fod yn ddogfen gyfreithiol, felly mae'n rhaid i'r ddarpariaeth a ysgrifennir ynddo gael ei chyflawni yn ôl y gyfraith. Dros y tair blynedd nesaf, bydd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn disodli'r holl gynlluniau sydd gennym nawr gan gynnwys:
- Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA):
- Cynlluniau Addysg Unigol (CAUau) ar gyfer dysgwyr sy'n cael cymorth ar hyn o bryd drwy Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar / Gweithredu gan yr Ysgol neu Weithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy / Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy; a
- Cynlluniau Dysgu a Sgiliau (ar gyfer dysgwyr dros 16 mlwydd oed sy'n mynychu'r coleg).
Ymwelwch â Gwefan Gwasanaethau Addysg CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth ynghylch Cynlluniau Datblygu Unigol.