Mae'r Tîm Dysgu ac Ymyrraeth yn gweithio gydag ysgolion i'w helpu i gefnogi plant y mae angen rhagor o gymorth arnynt gyda sgiliau llythrennedd a rhifedd. Mae'r tîm yn cynnwys athrawon arbenigol a Chynorthwy-ydd Addysgu arbenigol.
Gall y tîm:
- Gynnig cymorth ychwanegol i ddisgyblion unigol
- Rhoi hyfforddiant
- Helpu ysgolion i sefydlu rhaglenni llythrennedd a rhifedd arbennig megis SAIL, STARS a Talking Teddy/Siôn yn Siarad
- Rhoi hyfforddiant a deunyddiau i ysgolion mewn perthynas ag amrywiaeth o raglenni a gyhoeddir
- Rhoi hyfforddiant i athrawon a chynorthwywyr addysgu i ennill cymwysterau arbenigol wrth addysgu disgyblion ag anawsterau dysgu penodol fel dyslecsia a dyscalcwla
Siaradwch â Chydlynydd AAA ysgol eich plentyn i ddysgu mwy am gymorth arbenigol ar lythrennedd a rhifedd. Cysylltwch â swyddfa'r ysgol i gael gwybod pwy yw Cydlynydd AAA ysgol eich plentyn.