Mae'r Tîm Cymorth Ymddygiad yn cynnwys:
- Tîm o athrawon arbenigol, cynorthwywyr addysgu arbenigol a swyddog gwaharddiadau
- Mae'r Tîm Iechyd ac Amgylchiadau Eithriadol yn tiwtora disgyblion na allant fynd i'r ysgol o ganlyniad i salwch neu amgylchiadau arbennig
- Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Bryn-y-Deryn
Mae'r athrawon arbenigol yn cynnig cymorth, hyfforddiant a chanllawiau i ysgolion a rhieni/gofalwyr mewn perthynas â disgyblion sy'n cael anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Pan fo disgyblion yn dioddef o'r anawsterau hyn, yn aml ceir achosion sylfaenol eraill wrth wraidd y mater, megis oedi wrth ddatblygu lleferydd, anawsterau gyda llythrennedd neu gyflyrau meddygol sylfaenol, felly mae angen defnyddio dull gweithredu aml-dîm/amlasiantaeth i ddiwallu anghenion y person ifanc. Mae'r tîm yn gweithio'n agos gyda phob tîm yn y gwasanaeth Addysg a'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r GlasoedDolen yn agor mewn ffenestr newydd (CAMHS).
Siaradwch â'r Cydlynydd AAA yn ysgol eich plentyn i ddysgu mwy am gymorth arbenigol i ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Cysylltwch â swyddfa'r ysgol i gael gwybod pwy yw Cydlynydd AAA ysgol eich plentyn.