Os ydych o'r farn y gallai fod gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, cysylltwch â'r person yn ysgol neu feithrinfa eich plentyn sy'n gyfrifol am anghenion addysgol arbennig. Gelwir y person hwn yn ‘Gydlynydd AAA'. Cysylltwch â swyddfa'r ysgol i gael gwybod pwy yw Cydlynydd AAA ysgol eich plentyn. Os nad yw eich plentyn yn mynd i'r ysgol neu feithrinfa eto, siaradwch â'ch meddyg neu eich Ymwelydd Iechyd.
Mae SNAP Cymru yn cynnig Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni Annibynnol yng Nghaerdydd, a gallwch gysylltu â nhw i gael cyngor diduedd ar anghenion addysgol arbennig.
Ffoniwch: 0845 120 3730 neu e-bostiwch:helpline@snapcymru.org