Cynigir y gwasanaeth hwn ganYsgol Arbennig The HolliesDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Gall y Gwasanaeth Cyfathrebu Cymdeithasol, Rhyngweithio a Chwarae (SCIP) gynnig cyngor a chymorth o ran cynorthwyo plant sydd ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol. Gall y gwasanaeth hwn hefyd gynnal asesiadau neu arsylwadau i'w helpu i greu darlun cliriach o anghenion y plentyn a'r ffordd orau o'i gynorthwyo wrth iddo wneud cynnydd.
Mae SCIP hefyd yn cynnig hyfforddiant/modelau/trefniadau rhannu arfer da mewn partneriaeth â Thîm Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar i leoliadau ac ysgolion ledled Caerdydd.
Gwneir atgyfeiriadau drwy'r Fforwm Blynyddoedd Cynnar ac mae'r ffocws ar blant oedran Meithrin a Derbyn a phlant cyn ysgol ar Raglen Dechrau'n Deg.
Cynigir y gwasanaeth hwn gan Ysgol Arbennig RiverbankDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Gall Anelu'n Uchel gynnig cyngor a chymorth i blant oedran Meithrin neu Dderbyn sy'n datblygu'n arafach na'r disgwyl. Byddant yn rhoi cyngor ar sut i addasu gweithgareddau dysgu, a pha adnoddau a gweithgareddau a fydd yn helpu'r plant i ddatblygu. Gallant helpu'r ysgol i bennu targedau sy'n briodol ar gyfer dysgu mewn Cynllun Chwarae Unigol neu Gynllun Addysg Unigol.
Mae Anelu'n Uchel hefyd yn cynnig hyfforddiant/modelau/trefniadau rhannu arfer da mewn partneriaeth â Thîm Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar i leoliadau ac ysgolion ledled Caerdydd.
Gwneir atgyfeiriadau drwy'r Fforwm Blynyddoedd Cynnar ac mae'r ffocws ar blant oedran Meithrin a Derbyn.
Cynigir y gwasanaeth hwn gan Ysgol Arbennig MeadowbankDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Mae Rhaglenni Ymyrraeth Gynnar o ran Cyfathrebu ac Iaith (ECLIPS) yn rhoi cyngor a chymorth i ysgolion neu feithrinfeydd o ran hybu sgiliau lleferydd ac iaith plant penodol. Gall y gwasanaeth hwn hefyd gynnal asesiadau neu arsylwadau i'w helpu i greu darlun cliriach o anghenion y plentyn a'r ffordd orau o'i gynorthwyo wrth iddo wneud cynnydd.
Mae ECLIPS hefyd yn cynnig hyfforddiant/modelau/trefniadau rhannu arfer da mewn partneriaeth â Thîm Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar i leoliadau ac ysgolion ledled Caerdydd.
Gwneir atgyfeiriadau drwy'r Fforwm Blynyddoedd Cynnar ac mae'r ffocws ar blant oedran Meithrin a Derbyn.
Cynigir y gwasanaeth hwn gan Ysgol Arbennig Tŷ GwynDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Cynlluniwyd y gwasanaeth i roi cyngor a chymorth i leoliadau'r Blynyddoedd Cynnar, gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg, y mae ganddynt blentyn y mae angen defnyddio dull mwy amlsynhwyraidd o ddysgu a chwarae gydag ef. Gall y gwasanaeth hefyd weithio gydag ysgolion sydd â phlentyn hŷn ag anghenion cymhleth gan gynnwys, er enghraifft, plant mewn Ysgolion Cymraeg.
Gwneir atgyfeiriadau drwy'r Fforwm Blynyddoedd Cynnar ac mae'r ffocws ar blant oedran Meithrin a Derbyn.
Cynigir y gwasanaeth hwn gan Ysgol Arbennig Tŷ GwynDolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Mae'r Gweithiwr Allgymorth Codi a Chario yn Hyfforddwr Codi a Chario cymwys, sy'n hyfforddi athrawon a chynorthwywyr dysgu sy'n gweithio gyda phlant â phroblemau symudedd. Gall helpu'r ysgol i gynnal asesiadau risg a threfnu cynlluniau gofal hefyd.
Os oes angen cyfarpar arbenigol ar blentyn yn yr ysgol, megis cyfarpar codi, mae'r gwasanaeth yn sicrhau bod pawb sy'n defnyddio'r cyfarpar wedi cael hyfforddiant priodol, a hefyd yn sicrhau y cynhelir profion diogelwch rheolaidd ar unrhyw gyfarpar. Gall y gwasanaeth hefyd roi cyngor ar addasiadau a sicrhau hygyrchedd i bobl sydd â phroblemau symudedd mewn ysgolion penodol.
Mae'r Gwasanaeth Codi a Chario yn cynnig hyfforddiant a chyngor mewn perthynas â phlant 3-19 oed.
Mae'r gwasanaeth yn gweithredu system atgyfeirio agored ac mae'n ymateb i geisiadau uniongyrchol gan leoliadau'r Blynyddoedd Cynnar, ysgolion, y tîm gwaith achos AAA neu dimau arbenigol eraill, Therapyddion Galwedigaethol ac Ymwelwyr Iechyd AAA.
Os ydych yn credu y gallai fod angen help gan y gwasanaeth hwn ar eich plentyn, ffoniwch y Tîm Gwaith Achos AAA ar 029 2062 9800 i gael gwybod mwy.