Mae seicolegwyr addysgol yn seicolegwyr cymwys sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed mewn cyd-destunau gwahanol, ond rydym yn gwneud llawer o waith mewn lleoliadau addysgol a chyda rhieni/gofalwyr, staff ysgol, gweithwyr proffesiynol eraill ac asiantaethau allanol.
I gyflawni hyn, mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysgol (GSA) yn:
- Defnyddio seicoleg i hyrwyddo cyrhaeddiad a datblygiad emosiynol iach plant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed
- Sicrhau ymyrraeth gynnar
- Bodloni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol o ran codi safonau mewn ysgolion
- Canolbwyntio ar amrywiaeth o ddulliau dilys sy'n hyrwyddo llwyddiant e.e. ymgynghori, asesu ac ymyrryd
- Datblygu dulliau amlasiantaethol o gefnogi ysgolion a rhieni
Mae'r SGA yn neilltuo amser a gyfrifir i sicrhau cydraddoldeb yn seiliedig ar anghenion unigol yr ysgol. Mae ein dull o weithredu'n hyblyg, ac mae gennym amrywiaeth eang o ymyriadau sy'n seiliedig ar ymchwil i gefnogi ysgolion.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Ymgynghori a chyngor seicolegol - Unigolion, grwpiau, teuluoedd a materion sy'n ymwneud â'r ysgol gyfan
- Asesiadau seicolegol - Defnyddio dulliau amrywiol i lywio ymyriadau
- Ymyriadau seicolegol - Hyrwyddo lles seicolegol, datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a chodi safonau addysgol
- Darparu datblygiad proffesiynol a hyfforddiant - Gallu cefnogi dysgu, dealltwriaeth ac arferion eraill
- Ymchwilio a gwerthuso - Defnyddio canlyniadau i lywio arferion neu weithredoedd yn y dyfodol
At hynny, mae seicolegwyr cymwys yn cyfrannu at weithgareddau ym mhob rhan o'r Awdurdod Lleol.
Gan gynnwys::
- Seicolegwyr cymwys sy'n canolbwyntio ar bobl ifanc ag anghenion cymhleth; y blynyddoedd cynnar; disgyblion Lleiafrifoedd Ethnig a chyrhaeddiad a lles Plant sy'n Derbyn Gofal
- Cymorth gyda digwyddiadau critigol a phrofedigaethau
- Cyfrannu at ymyriadau a'u datblygu i helpu gyda datblygiad llythrennedd a rhifedd
- Cyflwyno rhaglen ELSA yng Nghaerdydd
- Bod yn rhan graidd o waith Cwnsela yn yr Ysgol, gan gynnwys rôl arweiniol yn y Grŵp Llywio
- Ymchwil i ymyriadau i gefnogi plant sy'n cael anawsterau o ran iaith
- Sesiynau galw mewn i rieni