Weithiau, mae’n rhaid i ysgolion yng Nghaerdydd gau i ddisgyblion a staff oherwydd amgylchiadau annisgwyl. Gallai hyn fod oherwydd
tywydd garw megis eira a rhew neu waith cynnal a chadw brys megis system wresogi sydd wedi torri.
Bydd ysgolion yn defnyddio eu sianeli cyswllt eraill, megis neges destun, gwefan neu'r cyfryngau cymdeithasol, i hysbysu rhieni a gwarcheidwaid o ysgolion yn cau yn annisgwyl.
Os ydym yn ymwybodol o ysgol sydd ar gau byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth ar y wefan hon.