Mae Twf Swyddi Cymru + yn rhaglen addysg a hyfforddiant sy'n ymgorffori profiad gwaith, gan baratoi pobl ifanc ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy eu helpu i fod yn 'barod am waith'.
Porwch drwy gyfleoedd TSC+ (JGW+) yng Nghaerdydd:
Sefydliad Dinas Caerdydd
Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd - Twf Swyddi Cymru + Ymgysylltu
Mae cwrs Ymgysylltu Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn rhoi'r cyngor, y technegau a'r profiad i bobl ifanc fod yn barod am waith neu i symud ymlaen i addysg bellach.
Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddal mewn amgylchedd hyblyg er mwyn helpu i ddatgloi potensial pob myfyriwr ac nid yw'n rhoi unrhyw bwysau ar ennill cymwysterau.
Ar ôl cwblhau cwrs ymgysylltu TSC+, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r cwrs TSC+ datblygu Lefel 1.
Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd - TSC+ Datblygu Lefel 1 mewn Chwaraeon
Mae cwrs TSC+ Datblygu Lefel 1 Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn caniatáu i bobl ifanc 16-19 oed gyfuno eu hastudiaethau â sesiynau ymarferol.
Mae'r cwrs yn ddilyniant naturiol i fyfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs TSC+ Ymgysylltu.
Mae gan y cwrs ffocws clir sy'n gysylltiedig â gwaith, sy'n cwmpasu'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector chwaraeon a hamdden.
Mae unedau'n cynnwys sut mae'r corff yn gweithio, cynllunio rhaglen ffitrwydd, cynorthwyo hyfforddi a chyfleoedd gwaith mewn chwaraeon.
ACT - Twf Swyddi Cymru+ (TSC+)
Mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu a ariennir yn llawn sy'n rhoi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen arnoch chi i ennill Prentisiaeth, sefydlu busnes neu ddod o hyd i swydd sy'n iawn i chi.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, rhwng 16-18 oed ac nad ydych mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant llawn amser gallech chi elwa o TSC+. Mae'n rhaglen hyblyg, wedi'i dylunio o'ch cwmpas. Felly, mae'n opsiwn da p'un a ydych chi eisiau ychydig o help neu fwy o gefnogaeth gydag anghenion penodol.
Rhagor o wybodaeth ar wefan hyfforddiant ACT.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Rhaglenni hyfforddi ITEC
Ar hyn o bryd mae ITEC yn cynnig y llwybrau canlynol drwy eu rhaglen hyfforddi:
- Trin gwallt
- Barbwr
- Harddwch
- Busnes
- Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Cerbydau Modur
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cymerwch olwg ar
gyfleoedd hyfforddi gydag ITEC.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Llamau - Dysgu am Oes
Dysgu am Oes yw rhaglen addysg a dysgu Llamau.
Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd dysgu i bobl ifanc wella eu hunan-barch, datblygu sgiliau a symud tuag at ddyfodol mwy hyderus ac annibynnol. Gall dysgwyr ennill cymwysterau ac achrediadau, trefnu lleoliadau gwaith a chael cyfleoedd gwirfoddoli a chymorth tuag at gyflogaeth a dysgu pellach.
Gall unrhyw berson ifanc 16-24 oed nad yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd fynychu Dysgu am Oes.