Mae profiad gwaith yn eich galluogi i roi prawf ar yrfa ac adeiladu sgiliau ac, o fewn marchnad swyddi gystadleuol, mae'n hanfodol i sicrhau swydd. Mae interniaethau, lleoliadau gwaith a gwirfoddoli yn ffyrdd gwych o greu argraff ar gyflogwyr.
Dewch o hyd i gyfleoedd profiad gwaith yng Nghaerdydd:
Porwch drwy brofiadau cyfleoedd gwaith sydd ar gael i bobl ifanc Caerdydd.
Pori drwy gyfleoedd interniaeth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghaerdydd.
Mae Rhaglen Profiad Gwaith Cyngor Caerdydd yn cynnig y cyfle i wneud cais am leoliad profiad gwaith di-dâl fel y gallwch gael gwell dealltwriaeth o'r cyngor a sut beth yw gweithio yn y sector cyhoeddus. Gweld mwy o wybodaeth am Raglen Profiad Gwaith Cyngor Caerdydd.
Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol ystod eang o leoliadau profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr ysgol ac oedolion ifanc yn ardal Caerdydd a'r Fro. Gweld rhestr o gyfleoedd sydd ar gael.
Mwy: