Mae Gradd Sylfaen Hyfforddi a Datblygu Pêl-droed Cymunedol Sefydliad Dinas Caerdydd yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru.
Mae'r Radd Sylfaen yn cynnig amrywiaeth o lwybrau gyrfa cyffrous o fewn y diwydiant pêl-droed. Cyflwynir yr holl ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau drwy'r llwyfan dysgu ar-lein, mewn amgylchedd cefnogol.
Ochr yn ochr ag elfen academaidd y cwrs, bydd myfyrwyr yn cwblhau hyd at 200 awr o hyfforddiant gwirfoddol yn y gymuned, gan weithio gyda staff Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac Academi Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.
Mae cyfle hefyd i astudio am drydedd flwyddyn i ennill cymhwyster lefel Baglor llawn.