Loading
Fy Nghymdogaeth
Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.
Find facilities in my area
Paratoi i weithio
Page Content
Dewch o hyd i gyfleoedd cyfredol yng Nghaerdydd i'ch helpu i baratoi at waith.
Mae Caerdydd ar Waith yn cynnig swyddi dros dro gyda Chyngor Caerdydd. Maent yn paru recriwtiaid â chyfleoedd addas ac yn cynnig contractau byrdymor i roi hwb i’ch gyrfa.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a digidol i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwch-sgilio.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu’n bersonol, yn gymdeithasol ac yn addysgol. Maent yn darparu cymorth ac arweiniad i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
Mae Dysgu i Oedolion Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd wedi’u cynllunio i helpu dysgwyr i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Gall Gyrfa Cymru eich helpu i gynllunio eich gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i'r prentisiaethau, y cyrsiau a'r hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt.
Os ydych yn 16 oed neu'n hŷn ac yn ansicr ynghylch eich opsiynau cyflogaeth, mae Cymru'n Gweithio, a ddarperir gan
Gyrfa CymruDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd, yn gallu eich helpu. Gallant roi cyngor a hyfforddiant diduedd am ddim ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd ar sail eich anghenion unigol.
Cyngor ar weithio yn y maes gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant yng Nghymru. Adnoddau dysgu ar-lein i ddarganfod a yw gyrfa ym maes gofal yn addas i chi.
Dewch o hyd i raglenni ac adnoddau ar-lein i'ch helpu i fagu eich hyder, cael swydd neu ddechrau busnes.
Gwahoddwch Genhadon Careers at Sea i siarad yn eich ysgol, eich coleg neu’ch grŵp am eu profiadau personol o weithio a hyfforddi yn y Llynges Fasnachol. Achubwch ar y cyfle i glywed am eu profiadau yn y diwydiant a sut mae eu gyrfa wedi datblygu.
Mae’r rhaglen hon ar agor i unrhyw un rhwng 18 a 24 oed ag anabledd dysgu neu gyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eich gallu i weithio, ac nad ydych yn gweithio nac yn astudio ar hyn o bryd. Nod Step On yw gwella’ch hyder, eich paratoi a’ch cynorthwyo i symud tuag at wirfoddoli, dysgu pellach neu gyflogaeth.
Mae Gweithio ar Les yn rhaglen hyfforddiant a chymorth cyflogaeth am ddim i bobl anabl sy'n byw yng Nghymru. Bydd ymgynghorwyr gyrfa arbenigol yn helpu i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnoch i gyflawni eich nodau gyrfa.
Mae Campws Cyntaf yn darparu mentoriaid ar gyfer Gofalwyr Ifanc, Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal ac oedolion dros 21 oed heb unrhyw gymwysterau Addysg Uwch. Gallwch gofrestru i dderbyn mentora fel rhan o'r cynllun. Bydd eich mentor yn gweithredu fel model rôl a bydd yn darparu cymorth ac arweiniad unigol i'ch helpu i gyrraedd eich nodau.
Mwy:
Rhannwch y dudalen hon: