Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o roi yn ôl a chymryd rhan yn eich cymuned.
Gall gwirfoddoli eich helpu i gwrdd â phobl newydd, rhoi cynnig ar bethau newydd, meithrin eich sgiliau a gwella eich hyder. Gall eich helpu i benderfynu beth rydych chi'n ei fwynhau, a pha yrfa yr hoffech ei dilyn yn y dyfodol. Gall gwirfoddoli hefyd helpu i wella eich CV a'ch gwneud yn fwy cyflogadwy.
Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli lleol ar gael yng Nghaerdydd:
Porwch drwy’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael ar hyn o bryd i bobl ifanc yng Nghaerdydd.
Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cyfeirio trigolion Caerdydd at yr holl gyfleoedd, sefydliadau a chymorth sydd ar gael i alluogi gwirfoddoli yn y ddinas.
Dewch o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli ledled Cymru. Cofrestrwch fel gwirfoddolwr newydd ar-lein.
Dysgwch am wirfoddoli gyda FareShare Cymru. Sut i gofrestru a chyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael.
Dysgwch am wirfoddoli gyda Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd, y cyfleoedd sydd ar gael a sut i gymryd rhan.
Gweithgareddau cadwraeth a chyfleoedd gwirfoddoli gydag Awyr Agored Caerdydd.
Dysgwch am brosiectau a chyfleoedd gwirfoddoli y gallwch gymryd rhan ynddynt ym Mharc Bute.
Cofrestrwch i wirfoddoli i fynd â chŵn am dro. Gwnewch gais i weithio yn y cytiau cŵn. Helpwch i gludo cŵn at y milfeddyg. Gwirfoddolwch i gasglu rhoddion.
Dysgwch am gyfleoedd gwirfoddoli ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia.
Dysgwch fwy am cyfleoedd gwirfoddoli gyda Mind Caerdydd.
Dysgwch am gyfleoedd gwirfoddoli gydag Age Connects Caerdydd a’r Fro.
Dysgwch am gyfleoedd cadwraeth gyda Cardiff Conservation.
Mae SVC yn elusen annibynnol sy'n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio gyda phobl ddigartref, plant a phobl ifanc, pobl ag anableddau, a'r amgylchedd. Dysgwch sut i wirfoddoli gyda SVC.
Mwy: