Gall cael swydd roi profiad i chi o fyd gwaith a'ch helpu i benderfynu beth rydych am ei wneud nesaf.
Gall meddwl am gael swydd am y tro cyntaf fod yn heriol. Os oes angen help arnoch i ysgrifennu eich CV neu baratoi ar gyfer cyfweliad neu gael gyngor gyrfaol gallwch
gael help i baratoi ar gyfer gwaith.
Mae llawer o swyddi llawn-amser a rhan-amser ar gael yng Nghaerdydd. Gallwch chwilio am swyddi ar-lein, ymweld â gwefannau cyflogwyr, gofyn o gwmpas yn eich ardal leol neu gael golwg ar fyrddau swyddi lleol. Gallwch hefyd bori drwy swyddi gyda'r cyngor a'n partneriaid:
Pori drwy restri swyddi lleol yng Nghaerdydd.
Pori drwy gyfleoedd i raddedigion sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghaerdydd.
Pori drwy gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghaerdydd.
Cymerwch olwg ar swyddi gwag diweddaraf y cyngor ac ysgolion, creu negeseuon swyddi a gwneud cais ar-lein.
Mae Caerdydd ar Waith yn cynnig swyddi dros dro gyda Chyngor Caerdydd. Rydyn ni’n paru recriwtiaid â chyfleoedd addas ac yn cynnig contractau byrdymor sy’n rhoi hwb i’ch gyrfa.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn cynnig cymorth cyflogaeth a digidol i unigolion sy’n chwilio am gyflogaeth neu sydd eisiau uwch-sgilio.
Mae Hoop Recruitment yn cnnig cyfleoedd swyddi dros dro a pharhaol ledled Cymru. Maent yn arbenigol mewn Gofal Cymdeithasol, Addysg, Nyrsio, Gwaith Cymdeithasol, Adnoddau Dynol a gwasanaethau Proffesiynol.
Chwilio am swyddi gwag a gwneud cais am brentisiaeth yng Nghymru.
Mae ITEC yn cynnig llwybrau prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gweinyddu Busnes, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gofal Plant, Chwarae, a Datblygu Dysgu, Rheoli, Arwain Tîm a Warysau. Cymerwch olwg ar gyfleoedd prentisiaeth gydag ITEC.
Mae ACT yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau gyda chyflogwyr blaenllaw sy'n aros i gwrdd ag ymgeiswyr ifanc, angerddol. Cymerwch olwg ar gyfleoedd prentisiaeth gydag ACT.
Gwybodaeth am yrfa mewn addysg, rolau mewn ysgolion, addysg bellach, dysgu’n seiliedig ar waith a gwaith ieuenctid. Mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a gyrfa yng Nghymru.
Mae als yn cynnig amrywiaeth o brentisiaethau a chyfleoedd twf swyddi Cymru i bobl ifanc sy'n awyddus, yn frwdfrydig ac a hoffai gael y cyfle i ddysgu a chyfrannu i'r gweithle.
Porwch drwy gyfleoedd prentisiaeth grafd i bobl ifanc yng Nghaerdydd.
Porwch raglenni prentisiaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro
Mwy: