Mae gan Goleg Caerdydd a'r Fro dros 30,000 o ddysgwyr bob blwyddyn ar draws cyrsiau coleg llawn-amser a rhan-amser, cymwysterau prifysgol a rhaglenni prentisiaeth.
Os hoffech bori drwy'r cyrsiau sydd ar gael gallwch:
Cyfrifon Dysgu Personol
Mae Cyfrif Dysgu Personol (CPD) yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Os ydych yn gymwys, mae Cyfrif Dysgu Personol yn rhoi mynediad i gyrsiau am ddim a chymwysterau proffesiynol sy'n datblygu eich sgiliau ac a all eich helpu i ddatblygu neu newid eich gyrfa.
Sefydliad Dinas Caerdydd yw elusen gofrestredig Clwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd.
Maent yn cynnal cyrsiau addysg ôl-16 sy'n cyfuno astudiaethau addysgol â chwaraeon mewn amgylchedd unigryw, gan gefnogi pobl ifanc i symud ymlaen i addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant.
Diploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon
Gall myfyrwyr gwblhau Diploma BTEC Lefel 2 mewn Chwaraeon, sy'n gyfwerth yn academaidd â 4 TGAU. Mae'r cwrs yn cynnig cyfleoedd dilyniant gwych i ddysgwyr sydd eisiau astudio BTEC Lefel 3, yn ogystal â darparu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth neu brentisiaethau.
Bydd myfyrwyr yn ennill y wybodaeth sydd ei hangen i gael dealltwriaeth sylweddol o egwyddorion chwaraeon. Mae modiwlau gwersi yn cynnwys anatomeg, ffisioleg, seicoleg chwaraeon, hyfforddiant chwaraeon ac ymchwil chwaraeon.
Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Perfformiad a Rhagoriaeth Chwaraeon
Gall myfyrwyr gwblhau Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Perfformiad a Rhagoriaeth Chwaraeon, sy'n gyfwerth yn academaidd â 3 Safon Uwch. Mae eu cwrs yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu cariad at chwaraeon ac angerdd dros ddysgu.
Mae gwersi damcaniaethol yn cwmpasu ystod eang o bynciau. Mae'r unedau'n cynnwys Anatomeg a Ffisioleg, Hyfforddiant ar gyfer Perfformiad a Phrofion Ffitrwydd.