Bydd gan rai dosbarthiadau chweched yng Nghaerdydd leoedd ar gael o hyd ar gyfer blwyddyn academaidd 2021 i 2022.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, cysylltwch â'ch chweched dosbarth dewisol yn uniongyrchol i weld a oes lleoedd ar gael.
Os ydych wedi gorffen eich TGAU ac eisiau parhau â'ch addysg, gallwch fynd i'r chweched dosbarth neu i’r
coleg.
Mae llawer o ddosbarthiadau chweched yng Nghaerdydd sy'n cynnig cyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddilyn ymlaen o gymwysterau TGAU. Gall cael cymwysterau roi mwy o ddewis i chi ar gyfer eich dyfodol. Mae'n dangos i golegau, prifysgolion a chyflogwyr fod gennych y sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen a llwyddo.
Mae pob ysgol yn cynnig ystod o gyrsiau i fodloni anghenion a diddordebau. Ewch i wefan pob ysgol i weld pa gyrsiau maen nhw'n eu cynnig.
Yr ysgolion uwchradd sydd â chweched dosbarth yng Nghaerdydd yw: