Mae’r rhaglen hon yn chwarae rôl bwysig o ran cau’r bwlch gwybodaeth a dealltwriaeth i bobl ifanc o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yng Nghaerdydd.
Mae’r rhaglen yn cynnig tair prif sesiwn:
- Al-Islah
Bore dydd Sadwrn yng Nghanolfan Hamdden Channel View
- Y Clwb Wrdw
Prynhawn dydd Sadwrn yng Nghanolfan Ieuenctid Howardian
- Astudiaethau’r Quran
Dydd Llun i ddydd Iau, ar ôl ysgol yn Ysgol Uwchradd Cathays
Cynigir amrywiaeth eang o weithgareddau, gan gynnwys:
- hyfforddiant yn y famiaith
- ymwybyddiaeth o amrywiaeth o ddiwylliannau ethnig lleiafrifol
- TGAU mewn Astudiaethau Islamaidd
Cyfres o weithgareddau untro wedi’u cynllunio a’u trefnu gan bobl ifanc, gan gynnwys:
- paratoi ar gyfer Dathliadau Eid,
- gweithdai codi ymwybyddiaeth,
- teithiau ac ymweliadau.
Sut i ddod o hyd i ni
Siop Wybodaeth Grangetown
185-187 Heol Penarth
Grangetown
Caerdydd
CF11 7XW
029 2059 8904
07976 056 138
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am yr amseroedd agor, cysylltwch â ni.
Dod o hyd i ni ar Facebook
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar Facebook. Prif dudalen Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw https://www.facebook.com/#!/CardiffYouthServiceDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Ceir rhestr o weithwyr ieuenctid, tudalennau a grwpiau ar Rwydwaith Facebook Gwasanaeth Ieuenctid CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Os oes rhywun yn honni ei fod yn rhan o’n rhwydwaith ond nad yw ar y rhestr, rhowch wybod i ni.