Mae Gwobr Dug Caeredin yn elfen bwysig o ddatblygiad pobl ifanc. Mae’n rhaglen gytbwys o weithgareddau sy’n datblygu’r meddwl, y corff a’r enaid mewn amgylchedd o ryngweithio cymdeithasol a gwaith tîm. Mae’n annog pobl ifanc i fyw bywyd fel antur.
Mae’r cynllun yn cynnwys tair Gwobr wahanol: Efydd, Arian ac Aur. I gyflawni pob Gwobr rhaid i gyfranogwyr gwblhau pedair adran wahanol (pump ar y lefel Aur):
- Gwirfoddoli
- Taith antur
- Sgiliau
- Corfforol
- Preswyl (Aur yn unig).
Mae gan Wobr Dug Caeredin Caerdydd dros 50 o ganolfannau ledled y sir yn cynnig amrywiaeth o sesiynau dydd/nos. Mae’r rhan fwyaf o’r canolfannau mewn ysgolion a chanolfannau ieuenctid ond mae nifer gynyddol o ganolfannau arbenigol yn cael eu creu.
Cyfleusterau
- Storfa Antur – yn cynnwys offer fel pebyll, trangias (offer coginio), bagiau a dillad gwrth-ddŵr.
- Defnydd o fws mini ar gyfer grwpiau uned unigol.
Sut i ddod o hyd i ni
Gwobr Dug Caeredin
Canolfan Ieuenctid Eastmoors
Sanquahar Street
Y Sblot
Caerdydd
CF24 2AD
029 2078 8359
I gael rhagor o wybodaeth a manylion am yr amseroedd agor, cysylltwch â ni.
Dod o hyd i ni ar Facebook
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar Facebook. Prif dudalen Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw https://www.facebook.com/#!/CardiffYouthServiceDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Ceir rhestr o weithwyr ieuenctid, tudalennau a grwpiau ar Rwydwaith Facebook Gwasanaeth Ieuenctid CaerdyddDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Os oes rhywun yn honni ei fod yn rhan o’n rhwydwaith ond nad yw ar y rhestr, rhowch wybod i ni.