Mae amrywiaeth o glybiau ar ôl ysgol ar gael i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- ffotograffiaeth
- coginio
- cerddoriaeth
- chwaraeon
- Gwobr yr Arglwydd Faer
- Gwobr Dug Caeredin
- ymweliadau a theithiau preswyl (yng Nghymru a thramor)
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Menter Caerdydd a’r Urdd i gynnig y cyfleoedd cyffrous hyn i bobl ifanc.
Cynigir y gweithgareddau a’r gwasanaethau hyn ledled y ddinas, ac mae ein swyddfa yng Nghanolfan Ieuenctid Waterhall.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Dod o hyd i ni ar Facebook
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar Facebook. Prif dudalen Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yw https://www.facebook.com/#!/CardiffYouthService
Ceir rhestr o weithwyr ieuenctid, tudalennau a grwpiau ar Rwydwaith Facebook Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
Os oes rhywun yn honni ei fod yn rhan o’n rhwydwaith ond nad yw ar y rhestr, rhowch wybod i ni.