Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gostyngiadau i bobl nad ydynt yn cael eu cyfrif

​​​​​​​​​​Bydd y bil Treth Gyngor ar gyfer eiddo lle caiff un o ddau breswylydd ei eithrio yr un fath ag ydyw ar gyfer eiddo gydag un preswylydd yn unig. Hynny yw, cewch ostyngiad o 25%. 

Os yw rhywun sy’n gymwys am eithriad yn byw ar ei ben ei hun, neu ond gydag eraill nad ydynt yn gymwys am eithriad, bydd gostyngiad o 50% yn berthnasol. ​

Nid yw pobl yn y grwpiau canlynol yn cael eu cyfrif tuag at nifer yr oedolion sy’n byw mewn eiddo:

  • myfyrwyr llawn-amser​
  • nyrsys sy’n fyfyrwyr
  • pobl sy’n gadael gofal
  • diplomyddion 
  • gŵr neu wraig i fyfyriwr nad yw’n dod o Brydain
  • aelodau o’r lluoedd arfog a’u dibynyddion
  • pobl 18+ oed sydd â hawl i ​gael budd-dal plant
  • pobl yn y carchar (ac eithrio’r rheini sydd yn y carchar am beidio â thalu'r Dreth Gyngor neu ddirwy)
  • aelodau o gymunedau crefyddol (e.e. mynachod a lleianod)
  • pobl sy’n gofalu am rywun anabl nad yw’n ŵr, yn wraig neu’n bartner nac yn blentyn dan 18 oed
  • gweithwyr gofal sy’n gweithio am dâl isel (fel arfer i elusennau)​
  • pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn yr ysgol neu sydd newydd adael ysgol
  • pobl sy’n aros mewn hosteli/llochesi nos penodol
  • pobl sydd â namau meddyliol difrifol 
  • cleifion mewn ysbytai
  • cleifion mewn cartrefi gofal
  • prentisiaid a’r rhai ar hyfforddiant ieuenctid (rhaid i brentisiaid ennill llai na £195 yr wythnos)
 

Sylwer, os yw eiddo'n cael ei feddiannu gan fyfyrwyr, pobl sy'n gadael gofal neu bobl â nam meddyliol difrifol yn unig neu unrhyw gyfuniad o'r rhain, gall eithriad​ fod yn berthnasol.​


© 2022 Cyngor Caerdydd