Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Eithriadau myfyrwyr

​​
Os ydych yn fyfyriwr, gallech gael eich eithrio o dalu’r Dreth Gyngor.
 
I gael eich ystyried yn fyfyriwr llawn-amser, rhaid i'ch cwrs:
 
  • bara o leiaf 1 flwyddyn galendr neu academaidd
  • ei gwneud yn ofynnol i chi ymgymryd ag ef am o leiaf 24 wythnos y flwyddyn
  • cynnwys o leiaf 21 awr o astudio, hyfforddiant neu brofiad gwaith yr wythnos.​
  
Os ydych yn astudio ar gyfer cymhwyster hyd at Safon Uwch a'ch bod o dan 20 oed, rhaid i'ch cwrs:​
 

  • bara o leiaf 3 mis
  • cynnwys o leiaf 12 awr o astudio'r wythnos​



Er mwyn sicrhau nad ydych yn atebol am daliad, gwiriwch a yw'ch landlord wedi cwblhau ffurflen adolygu eithrio myfyrwyr. Os ydynt, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Os nad ydynt, mae angen i chi gael tystysgrif Treth Gyngor gan y Cofrestrydd yn eich prifysgol neu goleg a'i hanfon atom atom trwy ebost neu bost.


ctax@caerdydd.gov.uk ​
 
Cyngor Caerdydd
Adran y Dreth Gyngor
Blwch Post 9000
Caerdydd
CF10 3WD
 
Cofiwch gynnwys manylion eich rhif cyfrif Treth Gyngor (os yw’n bosibl), eich enw a’ch cyfeiriad yng Nghaerdydd pryd bynnag y byddwch yn cysylltu â ni.


Gŵr neu wraig a dibynyddion myfyrwyr

 
Dylid trin gŵr neu wraig a dibynyddion myfyriwr rhyngwladol hefyd fel pe baent yn fyfyrwyr llawn-amser ar yr amod:
 

  • nad dinasyddion Prydeinig ydynt, ac
  • mae rheoliadau mewnfudo’n eu hatal rhag derbyn cyflogaeth â thâl neu hawlio budd-daliadau tra byddant yn byw yn y DU.​

 
Os ydych yn ŵr neu'n wraig i fyfyriwr, bydd angen i chi ddarparu copi o'ch pasbort neu’ch fisa.​



​​​


© 2022 Cyngor Caerdydd