Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Eiddo heb ei feddiannu


Mae yna eithriad rhag y tâl am hyd at chwe mis ar gyfer eiddo sydd heb ei feddiannu ac sydd heb ei ddodrefnu’n sylweddol, a dilynir hyn gan y tâl llawn ar ôl i’r eithriad ddod i ben. 

Pan fo eiddo wedi bod yn wag ac wedi'i ddodrefnu'n sylweddol am fwy na blwyddyn bydd y tâl wedyn yn cynyddu i 150% (mae hyn yn cynnwys tâl premiwm o 50%).

O 1 Ebrill 2023, bydd y tâl hwn yn newid o 150% i 200% (mae hyn yn cynnwys tâl premiwm 100%).


Mae rhai mathau o eiddo wedi’u heithrio rhag y tâl premiwm.


Dyma nhw: 
  • Eiddo sydd wedi’i farchnata i’w werthu neu ei osod – wedi’i gyfyngu i un flwyddyn 
  • Rhandai sy'n rhan o brif eiddo
  • Eiddo a fyddai’n breswylfa i rywun pe na bai’n byw yn llety’r lluoedd arfog.





Er mwyn cael ei ddosbarthu fel ‘heb ei ddodrefnu’n sylweddol’, ni ddylai fod unrhyw ddodrefn yn yr eiddo ac eithrio carpedi, llenni ac eitemau sefydlog.

Er mwyn caniatáu’r eithriad hwn, efallai y bydd angen i ni drefnu ymweliad â’ch eiddo. Gallwn hefyd wneud cais i archwilio’r eiddo unrhyw bryd ar ôl i’r eithriad gael ei roi.

​​Mae cyfnod yr eithriad yn dechrau o’r dyddiad y tynnwyd y dodrefn o’r eiddo gwag ni waeth a oes newidiadau o ran pwy sy’n atebol am yr eiddo neu’n berchen arno.​

Eiddo heb ei feddiannu sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol, ac ail gartrefi

​Nid oes gostyngiad i eiddo heb ei feddiannu sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol nac ail gartrefi oni bai bod un o’r canlynol yn berthnasol:​
 
  • mae’n llain sydd wedi’i meddiannu gan garafán neu’n angorfa sydd wedi’i meddiannu gan gwch
  • mae’r person atebol hefyd yn berson atebol mewn eiddo arall sy’n gysylltiedig â swydd, er enghraifft tafarnwr
  • lle mae’r person atebol yn aelod o’r lluoedd arfog ac mae cartref arall yn cael ei roi iddo gan y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • mae’r person atebol wedi marw ac nid oes profiant wedi’i gymeradwyo neu mae llai na 12 mis wedi mynd heibio ers y gymeradwyaeth.​


​​


© 2022 Cyngor Caerdydd