Gallwch chi ddewis peidio â derbyn biliau papur a dechrau derbyn eich biliau treth gyngor yn electronig.
Mae hyn yn golygu y gallwch weld eich biliau ar adeg sy’n gyfleus i chi.
Byddwch hefyd yn derbyn nodiadau atgoffa neu hysbysiadau terfynol yn electronig.
Sut i gofrestru ar gyfer e-filiau
Bydd angen rhif eich cyfrif Treth Cyngor arnoch i fewngofnodi i'n system Treth Gyngor ar-lein. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch ddewis derbyn e-filiau yn y dyfodol.
Gallwch gysylltu â ni ar-lein am eich Treth Gyngor gan ddefnyddio ein ffurflenni cyswllt.
Cofiwch gynnwys eich rhif Treth Gyngor pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Cysylltu â ni
Gallwch ffonio Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 6pm.
Mae’r ganolfan gyswllt ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus y DU. Os byddwch yn ffonio pan fydd ein canolfan gyswllt ar gau, byddwch yn clywed neges yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol.
Ysgrifennwch i:
Y Dreth Gyngor
BLWCH POST 9000
Caerdydd
CF10 3WD
Cofiwch oherwydd COVID-19 y gallai fod oedi gyda gohebiaeth a ysgrifennir â llaw.