Cynhyrchwyd y wybodaeth ar y dudalen hon gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De.
Cyflawni Mwy Gyda'n Gilydd tuag at Dde Cymru Mwy Diogel
De Cymru yw un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddi yn y DU ond gwna'r pwysau dwys ar blismona a gwasanaethau eraill hi'n ofynnol i ystyried yn ofalus iawn pa lefel o dreth gyngor sy'n angenrheidiol er mwyn cynorthwyo ein cymunedau a mynd i'r afael â bygythiadau trosedd sy'n dod i'r amlwg.
Mae Cynllun yr Heddlu a Throseddu 2023-27 y Comisiynydd, sydd yn y broses o gael ei ddiwygio, yn ymwneud â diogelu ein pobl, yn enwedig pobl agored i niwed, a gweithio hyd yn oed yn agosach gyda chymunedau lleol. Cafodd y cynllun ei lunio drwy gydweithio'n agos â'r Prif Gwnstabl ac mae'n nodi'r weledigaeth ar gyfer plismona yn Ne Cymru. Mae'n parhau i ddarparu pwyslais clir ar ymyrryd yn gynnar a chymryd camau prydlon a chadarnhaol. Mae'r Cynllun yn nodi sut y bydd Heddlu De Cymru yn ymateb i fygythiadau cynyddol, fel trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, troseddau wedi'u galluogi gan y rhyngrwyd, camfanteisio'n rhywiol ar blant a chamfanteisio ar y rheini sydd fwyaf agored i niwed.
Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i recriwtio 20,000 o Swyddogion yr Heddlu newydd, ond ni fydd hyn yn gwneud iawn am y niferoedd a gollwyd dros y deng mlynedd diwethaf.
Heblaw am y cyllid ar gyfer swyddogion newydd, roedd Grant yr Heddlu ar gyfer 2023/24 yn setliad arian gwastad arall, heb ystyried chwyddiant na chostau eraill, a fydd yn gadael bwlch cyllido o £20.8 miliwn yn achos Heddlu De Cymru yn 2023/24. Mae'r grant cyfalaf bellach wedi dirwyn i ben yn llwyr. Roeddem yn arfer cael £3 miliwn y flwyddyn fel grant cyfalaf, ond mae'r gostyngiad olynol yn y grant hwn yn golygu bod yn rhaid cyllido'r holl wariant cyfalaf gan ddefnyddio cyllid refeniw mewnol yn llwyr. Rydym hefyd yn cael £2m y flwyddyn yn llai mewn perthynas â'r Ardoll Prentisiaethau a chostau hyfforddi cysylltiedig, o gymharu â heddluoedd yn Lloegr. O ystyried y setliad arian grant gwastad, mae'n rhaid i'r praesept gwmpasu'r bwlch hwn, ar ben y £62 miliwn o arbedion cyfunol y llwyddwyd i'w cyflawni ers 2010.
Y canlyniad yw cynnydd ym Mhraesept yr Heddlu – ond bydd cartrefi yn Ne Cymru yn parhau i dalu rhai o'r costau plismona isaf yng Nghymru, gyda chynnydd o £22.36 y flwyddyn (£1.86 y mis) ar gyfer eiddo Band D. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn talu llawer llai. Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru wedi pennu'r dreth gyngor ar £324.47 ar gyfer eiddo Band D, gan gyfrannu £163.8 miliwn at y gyllideb o £359m ar gyfer gwasanaeth heddlu 24 awr, saith diwrnod yr wythnos.
Er gwaethaf yr heriau ariannol, rydym wedi gwella perfformiad yn gyson wrth i ni weithio tuag at sicrhau mai ni yw'r gorau o ran gwrando ar anghenion pob un o'n cymunedau yn Ne Cymru a deall yr anghenion hynny. Mae ein perfformiad wedi cael ei gydnabod yn allanol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi:
De Cymru sydd fwyaf gweladwy o blith y 43 o gwnstabliaethau ac mae yn y safle cyntaf o ran cyflawni'r canlyniadau cadarnhaol gorau yn y wlad ar gyfer trais gydag anaf ac ar gyfer cymryd camau yn erbyn troseddau rhywiol.
Mae'r holl wybodaeth am y Cynllun a'n Perfformiad ar gael ar gael ar
wefan y comisiynydd.
Beth y byddwch yn ei dalu bob blwyddyn
-
Band A: £216.31
-
Band B: £252.37
- Band C: £288.42
- Band D: £324.47
- Band E: £396.57
- Band F: £468.68
- Band G: £540.78
- Band H: £648.94
- Band I: £757.10
Cyllideb
Cyllideb y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022-23 yw £28m. Caiff hyn ei ariannu'n bennaf drwy gyfraniad refeniw, cronfeydd cyfalaf wrth gefn a benthyca mewnol.
Cyfanswm y Gwariant Gros | 409,923 | 433,166 |
Incwm | -14,863 | -17,327 |
Grantiau Eraill | -48,692 | -57,140 |
Defnyddio Cronfeydd | 0 | 0 |
Gofyniad y Gyllideb |
346,368 |
358,699 |
Grant yr Heddlu (Swyddfa Gartref) | -131,918
| -132,370 |
Grant Cymorth Refeniw (Llywodraeth Cymru) | -61,871 | -62,575 |
Cyfraddau Annomestig (Llywodraeth Cymru) | -480
| 0
|
Praesept y Dreth Gyngor |
-152,099 |
-163,754 |
Y Dreth Gyngor ar Eiddo Band D |
£302.11 |
£324.47 |
Asesiad Cyfanswm Gwariant Sefydlog gan y Llywodraeth ar gyfer y Corff Plismona Lleol |
249,744 |
252,804 |
Cysylltu â'r Comisiynydd
Y Comisiynydd sy'n gyfrifol am gynrychioli'r gymuned a gweithio gyda'r Prif Gwnstabl i ddarparu gwasanaeth heddlu effeithiol yn Ne Cymru.
Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd mewn sawl ffordd:
Ty Morgannwg, Pencadlys yr Heddlu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SU
Cysylltwch â Heddlu De Cymru
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser. Os nad yw'n argyfwng, ffoniwch 101.
Gall pobl â nam ar eu clyw neu nam iaith gysylltu â ni drwy ein system minicom ar 01656 656 980.
Unrhyw gwestiynau?
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ariannol ynglŷn â'r wybodaeth ffoniwch 01656 869 299.