Gallwch nawr ddewis peidio â derbyn biliau papur a dechrau derbyn eich biliau treth gyngor yn electronig. Os bydd eu hangen, byddwch hefyd yn derbyn nodyn atgoffa neu hysbysiad terfynol yn electronig hefyd.
Mae manteision e-filio yn cynnwys:
- Gweld eich biliau ar adeg sy’n gyfleus i chi.
- Mae e-filiau yn costio llai i’w cynhyrchu.
- Mae e-filiau yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd gan nad oes unrhyw bapur nac argraffu.
Cofrestru ar gyfer e-filio
Bydd angen eich rhif cyfrif Treth Gyngor arnoch i mewngofnodi i'r system Treth Gyngor ar-lein. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch ddewis i dderbyn e-biliau yn y dyfodol.
Cofrestrwch ar gyfer e-filio'r Dreth GyngorDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Lawrlwythwch i gael ffordd well o gysylltu â gwasanaethau’r cyngor.
