Yr unigolyn sydd wedi’i enwi ar bil y dreth gyngor sy’n gyfrifol am ei thalu.
Fel arfer, dyma’r unigolyn â’r budd mwyaf yn yr eiddo, er enghraifft:
- Perchen-feddianwyr,
- Tenantiaid (ar yr amod nad ydynt yn byw yn yr un eiddo â’u landlord),
- Perchenogion eiddo gwag, neu
- Perchenogion eiddo a ystyrir yn Dai Amlfeddiannaeth.
Rhagor o wybodaeth am y dreth gyngor i landlordiaid.
Cyd-atebolrwydd
Mae cyd-atebolrwydd ac atebolrwydd unigol yn derm cyfreithiol sy’n golygu bod pob unigolyn â’r un faint o fudd mewn eiddo yn gyfrifol am dalu’r dreth gyngor ar y cyd.
Byddwn yn cyflwyno bil y dreth gyngor dan fwy nag un enw os:
- rydych yn berchen ar eich eiddo ar y cyd â pherson neu bobl eraill,
- mae gennych gyd-denantiaeth â pherson neu bobl eraill,
- os ydych yn briod,
- os ydych yn rhan o bartneriaeth sifil, neu
- rydych yn byw gyda rhywun arall fel rhan o gwpl.
Hawl i Apelio
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad i’ch gwneud yn atebol am y tâl, neu os ydych yn meddwl bod hawl gennych i gael gostyngiad neu eithriad, mae gennych hawl i apelio. Cysylltwch â ni.
Rheolwr y Dreth Gyngor
Blwch SP 9000
CF10 3WD