I wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth gyngor mae angen i ni wybod pan fydd eich amgylchiadau’n newid. Rhowch wybod i ni os ydych:
- yn symud tŷ (o un cyfeiriad yng Nghaerdydd i un arall)
- yn symud i Gaerdydd neu o Gaerdydd
- yn landlord gyda thenant newydd
Os hoffech siarad â rhywun am eich treth gyngor, cysylltwch â ni. Newydd symud i mewn i'ch cartref newydd? Cael gwybod am eich casgliadau gwastraff ac ailgylchu.
Rhoi gwybod i ni am farwolaeth
Os oes angen i chi roi gwybod i ni am farwolaeth, gallwch ddefnyddio gwasanaeth Dweud Wrthym Unwaith. Mae hyn yn golygu y bydd ond angen i chi roi manylion yr ymadawedig unwaith, ac y gallwn wneud y trefniadau priodol gyda’i gyfrif.