Peidiwch ag anwybyddu unrhyw rybudd a gewch ynghylch talu eich Treth Gyngor.
Os byddwch yn talu’ch rhandaliadau yn hwyrach na’r dyddiadau a ddangosir ar eich bil treth gyngor, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch oherwydd bod eich taliadau yn hwyr.
Rhaid i chi dalu’r swm a nodir ar y nodyn atgoffa erbyn y dyddiad ar y llythyr atodedig.
Bydd angen i chi dalu’r holl randaliadau ar amser yn y dyfodol neu byddwch yn colli’ch hawl i dalu mewn rhandaliadau.
Os nad ydych yn meddwl y gallwch dalu, cysylltwch â ni neu dewch i un o’n canolfannau cyngor.
Os na fyddwch yn talu, anfonir cwyn i Lys Ynadon Caerdydd ac anfonir Gwŷs Llys atoch am beidio â thalu’r dreth gyngor. Caiff cost y wŷs ei hychwanegu at y cyfrif.
Cael Gwŷs
Pan gewch Wŷs, byddwn yn gwneud cais i’r Ynadon am Orchymyn Dyled am gyfanswm y dreth gyngor sy’n ddyledus gennych yn ogystal â chostau llys.
Gallwch atal hyn rhag digwydd drwy dalu’r swm a nodir ar eich gwŷs yn llawn, gan gynnwys y costau, cyn y dyddiad llys.
Os na allwch dalu’r swm llawn cyn y dyddiad llys, cysylltwch â ni ar unwaith a byddwn yn trafod eich opsiynau â chi.
Ffon: 029 2087 2087
Ni fydd hyn yn atal y mater rhag mynd i’r llys, a bydd yn rhaid i chi dalu costau llys o hyd.
Delir â chamau cyfreithiol â Llys yr Ynadon, felly ni fydd Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn ac ni fydd eich sgôr credyd yn cael ei effeithio o ganlyniad i hyn.
Mynd i'r Llys
Mae hawl gennych i ymddangos yn y Llys os ydych wedi cael eich galw. Nid oes yn rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad ond bydd yn rhaid i chi dalu costau llys.
Os ydych wedi cysylltu â ni i drafod eich cyfrif efallai na fydd yn rhaid i chi fynd i’r llys.
Os ydych wedi dewis mynd i’r gwrandawiad llys, bydd yr Ynadon yn gofyn i chi a oes gennych unrhyw amddiffyniad dilys a fydd yn atal y Gorchymyn Dyled rhag cael ei roi. Nid yw’r canlynol yn amddiffyniadau dilys:
- ni allwch fforddio talu
- rydych wedi gwneud cais am Ostyngiad, Disgownt, Eithriad neu leihad arall yn eich Treth Gyngor
- mae gennych apêl sy’n mynd rhagddi gyda’r Tribiwnlys Prisio
- nid ydych wedi cael yr hysbysiadau a anfonwyd atoch. Nid oes yn rhaid i’r cyngor brofi eich bod wedi’u cael.
Os na fyddwch yn mynychu, bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn eich absenoldeb a bydd y Gorchymyn Dyled yn gymwys gan gynnwys costau.
Gorchmynion Dyled
Rhoddir Gorchymyn Dyled gan yr Ynadon i roi pwerau cyfreithiol i'r Cyngor adennill unrhyw Dreth Gyngor sy'n ddyledus.
Mae Gorchymyn Dyled yn caniatáu i ni gymryd unrhyw un o'r camau canlynol os na fyddwch yn talu'ch Treth Gyngor:
- cael gwybodaeth am eich cyflogaeth neu fudd-daliadau
- gorchymyn i’ch cyflogwr gymryd yr arian yn uniongyrchol o’ch cyflog
- gwneud didyniadau o’ch Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith
- defnyddio Bwmbeilïaid i fynd â nwyddau o’ch cartref
- gwneud cais am Orchymyn Arwystlo ar eich tŷ a fydd yn golygu na allwch ei werthu nes bod y dreth gyngor wedi’i thalu
- gwneud cais i’r Uchel Lys eich datgan yn fethdalwr
- eich anfon i’r carchar am hyd at dri mis
Peidiwch ag anwybyddu eich bil treth gyngor. Os na allwch dalu, cysylltwch â ni fel y gallwn sicrhau eich bod yn cael y cyngor cywir.