Os ydych yn meddwl y gallech gael trafferth wrth dalu’ch treth gyngor, mae rhai opsiynau ar gael i chi.
Gostyngiad y Dreth Gyngor
Os ydych ar incwm isel, gallai cynllun gostyngiad y dreth gyngor eich helpu i dalu’ch bil. Sut i hawlio gostyngiad y dreth gyngor?.
Gostyngiadau a disgowntiau
Mae ffyrdd eraill y gallai'ch bil gael ei leihau. Rhagor o wybodaeth am ddisgowntiau a gostyngiadau.
Lledaenu’ch taliadau
Os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol gallwch ledaenu’ch taliadau tan fis Mawrth yn hytrach na mis Ionawr a thalu llai pob mis.
Dywedwch wrthym os ydych am ledaenu’ch taliadau.
Os ydych yn talu gydag arian parod, gallech newid i ddebyd uniongyrchol i ledaenu’ch taliadau tan fis Mawrth.
Trefnwch ddebyd uniongyrchol.Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Byddwn yn anfon bil diwygiedig i chi a fydd yn cynnwys manylion y taliadau a gaiff eu cymryd o’ch banc.
Help a chyngor i dalu eich Dreth Gyngor
I gael rhagor o gyngor cysylltwch â ni neu dewch i un canolfannau cyngor.