Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cymorth tai i bobl ifanc

Os ydych rhwng 18 a 21 oed ac mewn perygl o ddigartrefedd gallwch gael gafael ar gymorth arbenigol yn ein Porth Llety Pobl Ifanc:

53 Heol Siarl,
Caerdydd.
CF10 2DG. 
029 2087 3570.

Os yw’n bosibl, peidiwch â cherdded allan ar ôl anghytuno, ceisiwch aros gartref.




Byddwn yn ceisio eich atal rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf.

Gallwn eich helpu mewn sawl ffordd gan gynnwys cyfryngu teuluol i'ch helpu i aros gartref, neu efallai y byddwn yn helpu os oes gennych ôl-ddyledion rhent. Os nad yw'n bosibl cadw eich cartref gallwn eich helpu i ddod o hyd i lety addas.

Bydd angen i ni gadarnhau eich bod yn ddigartref yn ôl y gyfraith a'r rhesymau dros hyn. Byddwn yn cysylltu â'ch rhieni, neu gyda phwy bynnag rydych chi'n byw gyda nhw, i gael mwy o fanylion ac i drafod a allwch chi ddychwelyd adref.

Byddwn yn cysylltu â'ch rhieni, neu pwy bynnag rydych yn byw gyda nhw, i gael rhagor o fanylion ac i drafod a allwch ddychwelyd adref.

Os nad ydych yn barod i fyw'n annibynnol mae gennym amrywiaeth o letyau cymorth arbenigol ar gael i bobl ifanc. Bydd eich gweithiwr achos yn eich cynghori am eich opsiynau.

Gallwch barhau i gysylltu â ni i gael cyngor a chefnogaeth ar beth i'w wneud nesaf, ond os ydych chi'n ddigartref heno ac nid oes gennych unrhyw le i fynd, cysylltwch â ni ar unwaith.

029 2057 0750 (yn ystod y dydd) ​

neu

029 2087 3141 (rhif argyfwng y tu allan i oriau swyddfa).

 

Help i ddod o hyd i dai yn y sector rhentu preifat

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gartref newydd a sicrhau eich bod yn gallu fforddio'r rhent cyn i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth. Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr eiddo o safon dderbyniol a'i fod yn addas i chi.

Rydym yn argymell eich bod yn dod i’n gweithdai dod o hyd i gartref yn eich hyb cymunedol lleol. Bydd eich gweithiwr achos rhoi gwybod i chi ble mae’r rhain, neu gallwch gysylltu â'ch hyb lleol i gael manylion.

Gwneud cais am gartref cyngor neu gymdeithas dai

Beth am wneu cais am dŷ cyngor neu gartref gan gymdeithas dai?

Cofiwch, mae nifer y tai sydd ar gael yn brin iawn a gall gymryd amser hir. Dim ond un eiddo a gynigir i chi.

Os ydych chi am wneud cais am gartref cyngor neu gartref cymdeithas dai bydd angen i chi fynd i gyfweliad Ymgeisio am Dŷ, lle cewch gyngor tai yn seiliedig ar eich anghenion.

I gael rhagor o wybodaeth am wneud cais am dai, ffoniwch 029 2053 7111 neu ymwelwch â'ch hyb lleol.

Dodrefnu eich lle newydd

Os nad oes gennych unrhyw ddodrefn, gallwch gael help gan amrywiaeth o gynlluniau uwchgylchu:

Nu-life
Boomerang​
Cynllun ailgylchu YMCA

Budd-daliadau ar gyfer pobl sy'n gadael gofal dros 18

Pan fyddwch chi'n 18 bydd gennych hawl i hawlio budd-daliadau. 

Fodd bynnag, os ydych wedi bod mewn gofal, nid yw hyn yn berthnasol nes byddwch yn 22 oed. Tan hynny, dylech allu cael y gyfradd lawn ar gyfer un ystafell wely.

Cefnogaeth i ymadawyr gofal 18 - 24​

Fel ymadawr gofal byddwch yn parhau i dderbyn cymorth a chyngor gennym tan eich pen-blwydd yn 25 oed.

Bydd eich cynghorydd personol yn cadw mewn cysylltiad â chi i weld sut rydych chi'n dod ymlaen. Cyn i chi adael gofal rhoddir cynllun gweithredu i chi sy'n nodi pa gymorth efallai bydd arnoch ei angen i fyw'n annibynnol.




​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd