Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Polisi Preifatrwydd Newid Go Iawn

​​​​



Mae Newid Go Iawn yn fenter a grëwyd gan dîm Digartrefedd Cyngor Caerdydd mewn ymateb i COVID-19 a'i nod yw nodi unigolion sy'n agored i niwed sy’n byw yn seiliedig ar y stryd. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni i roi cymorth i'r unigolion a nodir. 

Bydd ein tîm allgymorth yn gweithredu ar bob adroddiad ac yn rhoi cymorth arbenigol i bob unigolyn a’i gyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran helpu i annog ymbellhau cymdeithasol er budd iechyd y cyhoedd. At ddibenion casglu gwybodaeth, Cyngor Caerdydd yw’r Rheolwr Data.

Diolch am gymryd rhan yn ymgyrch Newid Go Iawn, mae eich adroddiad yn werthfawr i ni a gallai wneud gwahaniaeth go iawn ym mywyd rhywun.

Pa ddata rydym yn ei gasglu?


Er mwyn hwyluso'r fenter hon, mae Cyngor Caerdydd yn defnyddio llwyfan negeseuon testun i dderbyn a phrosesu eich adroddiad. Mae rhan o'r broses hon yn golygu y byddwn yn cael eich rhif ffôn symudol yn awtomatig ynghyd â stamp dyddiad a chorff y neges destun. Ni fyddwn yn casglu gwybodaeth adnabod fel enw neu gyfeiriad, oni bai eich bod yn dewis cynnwys hyn yn eich neges destun. 

Prosesir yr holl ddata a gawn yn unol â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Sut rydym yn casglu eich data?


Cesglir eich data pan anfonwch neges destun at y rhif a ddarperir. Cynhelir hyn drwy blatfform negeseuon testun a ddarperir gan gwmni trydydd parti o'r enw Esendex. Ni chedwir unrhyw wybodaeth bersonol gyda'r darparwr hwn, fodd bynnag, os hoffech wybod mwy am sut mae Esendex yn prosesu data personol, cyfeiriwch at Polisi Preifatrwydd Esendex​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​​.

Sut byddwn yn defnyddio eich data?


Caiff eich data ei ddefnyddio at y dibenion canlynol:

  • I gysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom ynglŷn â'ch adroddiad
  • I gynhyrchu adroddiad a gaiff ei drosglwyddo i'n tîm allgymorth

Am faint y byddwn yn storio eich data?


Bydd eich data'n cael ei gadw am gyfnod o 96 awr gan Gyngor Caerdydd i roi amser ar gyfer prosesu'r adroddiadau a ddaw i law. Pan ddaw’r cyfnod 96 awr i ben, caiff y data ei ddileu'n ddiogel. Sylwch na fydd eich data'n cael ei storio gan Esendex a chaiff pob neges destun ei dileu ar unwaith o'u gweinydd.

Ein sail gyfreithlon


Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu fwy o'r canlynol: 

  • rydym yn prosesu eich data personol i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol; 
  • rydym yn prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus;
  • rydym yn prosesu eich data lle bo angen i ddiogelu ein buddiannau cyfreithlon fel Awdurdod Lleol; 
  • rydym yn prosesu eich data lle bo angen i gyflawni contract.

Beth yw eich hawliau diogelu data? 


Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol: 

  • Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o unrhyw ran o’ch data personol. 
  • Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn am gael cywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir. 
  • Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i’n Cwmni ddileu eich data personol.
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych hawl i ofyn i ni roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.
  • Yr hawl i wrthod prosesu – Mae gennych hawl i wrthod prosesu eich data personol, o dan rai amodau.
  • Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.





I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu eich data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd llawn.

Sut mae cysylltu â ni? 


Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod hyn ymhellach gyda'n tîm Digartrefedd, anfonwch e-bost atom yn cysguarystryd@caerdydd.gov.uk

Cofiwch fod gennych hawl i gysylltu â ni a gofyn am i'ch data gael ei ddileu ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod 96 awr.

Fel arall, gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data drwy anfon e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy lythyr at y:

Swyddog Diogelu Data 
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth 
Neuadd y Sir 
Glanfa’r Iwerydd 
Caerdydd 
CF10 4UW



© 2022 Cyngor Caerdydd