Loading
Fy Nghymdogaeth
Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.
Find facilities in my area
Help i berchenogion tŷ
Page Content
Os ydych yn bryderus ynghylch talu’ch rhent neu forgais, mae help a chymorth ar gael gan nifer o asiantaethau.
Y peth pwysicaf yw cael cyngor cyn gynted ag y bo’ch chi mewn trafferth.
Byddwn yn:
- Cynnig cyngor a chymorth annibynnol am ddim i chi ag unrhyw ddyledion ac ôl-ddyledion morgais neu rent.
- Eich cynrychioli yn y llys ar faterion dyledion a thai.
- Helpu i sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau lles y mae gennych hawl iddynt a’ch cynrychioli mewn tribiwnlysoedd budd-daliadau pan fo’n briodol.
Mae ein hymgynghorwyr arbenigol yma i helpu. Gofynnwch i ni am gyngor cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi mewn perygl o fod yn ddigartref cewch weithiwr achos arbenigol a fydd yn ceisio atal hyn rhag digwydd. A byddwn yn eich helpu pe baech chi’n colli’ch cartref.
Bydd eich gweithiwr achos yn asesu’ch sefyllfa ac yn creu cynllun gweithredu ar sut i’ch helpu i gadw’ch cartref.
Rhannwch y dudalen hon: