Yn gyfreithiol, gellir eich derbyn yn ddigartref os, er enghraifft:
- Nad oes gennych 'do uwch eich pen' h.y. rydych chi'n ddigartref ar y stryd
- Rydych chi’n wynebu risg o drais neu gamdriniaeth lle rydych chi'n byw. Gall hyn fod gan bartner, cynbartner neu aelod o'ch teulu, neu rywun yn eich ardal chi.
- Rydych chi’n wynebu risg o golli'ch cartref h.y. cael eich troi allan, neu ofyn i chi adael.
- Ni allwch fforddio aros lle rydych chi'n byw.
- Dim ond llety dros dro sydd gennych chi.
- Rydych chi'n aros gyda ffrindiau neu yn 'syrffio soffa'.
- Rydych wedi cael eich cloi allan neu eich troi allan yn anghyfreithlon.
- Mae eich llety mewn cyflwr gwael iawn neu'n beryglus.
- Nid oes gennych unrhyw le i roi eich cwch preswyl neu garafán.
Os yw un neu fwy o'r rhain yn berthnasol, efallai y byddwch yn gymwys i gael help. Os ydych chi'n ansicr, cysylltwch â ni i gael cyngor.
Gallwn roi cyngor a chymorth i chi ar unrhyw adeg.
Os ydych chi'n credu y gallech chi ddod yn ddigartref neu os ydych chi dan fygythiad o ddigartrefedd, cysylltwch â ni yn ddi-oed.
Gallwn gynghori os ydych chi’n gwneud cais digartref, a byddwn yn eich helpu i'w gwblhau.
Asesiad yw hwn gyda swyddog opsiynau tai (gweithiwr achos) i ddeall eich sefyllfa dai.
Bydd eich gweithiwr achos yn trafod eich achos gyda chi, a sut rydych chi am ddatrys eich problem dai.
Gyda'ch gilydd byddwch yn edrych ar unrhyw opsiynau sydd ar gael i chi.
Byddwch yn creu cynllun gweithredu a fydd yn rhoi manylion unrhyw waith y mae angen ei wneud i helpu i sicrhau cartref i chi yn y dyfodol.
Gallwn roi help gyda chyllidebau, cyfryngu neu gydag arbed rhent. Bydd eich cynllun yn bersonol i chi a'ch teulu ac yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Bydd angen i chi gwblhau rhai o'r tasgau, er enghraifft hawlio budd-daliadau, a bydd rhai yn cael eu cwblhau gan eich gweithiwr achos.
Os oes angen help arnoch i gwblhau eich tasgau gallwn drefnu cymorth ychwanegol.
Byddwch yn derbyn cynllun gweithredu ar ddiwedd eich asesiad. Bydd eich gweithiwr achos yn cadw mewn cysylltiad â chi i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae'r cynllun yn gweithio.
Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn golygu y gallai fod gennych hawl i:
- Cyngor a Chymorth,
- Asesiad digartrefedd,
- Eich helpu i'ch atal rhag dod yn ddigartref,
- Eich helpu i ddod o hyd i gartref newydd.
- Cymorth parhaus i ddod o hyd i Gartref (Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau Angen â Blaenoriaeth ac nad ydych yn Fwriadol Ddigartref)
Os ydych mewn perygl o fynd yn ddigartref byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r rheswm dros hyn a sut y gellir datrys y sefyllfa hon.
Bydd eich gweithiwr achos yn gweithio gyda chi i helpu eich atal rhag mynd yn ddigartref gan ddefnyddio gwahanol opsiynau megis cyfryngu, achub rhent, cymorth gyda diffyg atgyweirio eiddo.
Bydd y rhain yn seiliedig ar eich sefyllfa bersonol. Os na allwch aros yn eich cartref presennol, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i lety arall.
Os nad yw'n bosibl eich atal rhag dod yn ddigartref, neu os ydych eisoes yn ddigartref pan gysylltwch â ni, byddwn yn ystyried a oes angen llety dros dro arnoch.
Bydd eich gweithiwr achos yn trafod eich opsiynau ac yn cynnal asesiad gyda chi i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r ateb tai gorau a bydd yn eich cefnogi i ddod o hyd i gartref addas.
Byddwch yn gweithio gyda'ch gilydd i sicrhau y gellir darparu ateb tymor hir i chi ar ôl ichi ddod o hyd i opsiwn tai. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau eich bod chi'n gallu fforddio'ch cartref newydd, a’i fod yn cwrdd â safonau iechyd a diogelwch a'i fod yn addas i chi a'ch teulu.