Os ydych yn wynebu’r risg o fod yn ddigartref ar ôl cael eich rhyddhau o’r ysbyty, dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn asesu eich sefyllfa a gweld sut gallwn eich helpu.
Dywedwch wrth staff nyrsio’r ysgol cyn gynted â phosibl, fel y maent yn gwybod y byddwch yn ddigartref pan gewch eich rhyddhau.
Mae gennym staff arbenigol yn gweithio mewn ysbytai a all eich helpu. Byddant yn trafod eich dewisiadau tai gyda chi, a gallent eich atgyfeirio at eich Gwasanaeth Dewisiadau Tai.
Os oes angen, gallwn ni gynnig llety dros dro i chi tra ein bod yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ateb hirdymor.
Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i dŷ newydd a gwirio eich bod yn gallu fforddio’r rhent a godir cyn i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth.
Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr eiddo o safon dderbyniol a’i fod yn addas i chi.
Rydym yn argymell eich bod yn mynd i’n gweithdai dod o hyd i gartref yn eich hyb cymunedol lleol.
Bydd eich gweithiwr achos yn rhoi gwybod i chi am y rhain, neu cysylltwch â’ch hyb lleol am fanylion.
Gallech ystyried gwneud cais am dŷ’r Cyngor neu dŷ cymdeithas tai.
Sylwch fod nifer yr eiddo sydd ar gael yn brin iawn a gall gymryd amser hir. Dim ond un eiddo gaiff ei gynnig i chi.
Os ydych am wneud cais am dŷ’r Cyngor neu dŷ cymdeithas tai, bydd angen i chi fynd i gyfweliad Cais Tai, lle y cewch cyngor ar dai ar sail eich anghenion.
I ddysgu mwy am wneud cais am dŷ ffoniwch 029 2053 7111 neu ewch i’ch hyb lleol.