Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Digartref wrth adael y carchar

Os ydych mewn perygl o ddod yn ddigartref ar ôl gadael y carchar, dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel bod modd i ni asesu eich sefyllfa a gweld sut allwn eich helpu chi.

 
Tra y byddwch yn y carchar bydd y Swyddog Adsefydlu yn eich helpu chi i ystyried eich dewisiadau tai, a helpu chi i wneud cais tai.

Byddant yn cyfeirio’r cais hwn atom ni er mwyn sicrhau ein bod ni’n ymwybodol o’ch dyddiad rhyddhau. Byddwn yn sicrhau bod gennych gynllun tai cyn cael eich rhyddhau.
Byddwn yn gweithio gyda chi i greu cynllun tai personol, a'ch helpu chi i ddod o hyd i lety. 

Mewn rhai achosion, efallai bod dyletswydd arnom ni i roi llety dros dro i chi. Byddwn yn ystyried os ydych wedi treulio amser yn y carchar wrth adolygu eich cymhwysedd, hyd yn oed os oes cryn amser wedi bod ers i chi gael eich rhyddhau.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai bod gennych angen â blaenoriaeth gan eich bod chi’n agored i niwed ar ôl treulio amser yn y carchar neu ar remand. 

Does dim rhaid i chi fod ag angen â blaenoriaeth i ddefnyddio ein gwasanaeth.

Wrth ystyried eich cais digartrefedd, byddwn yn e
drych ar:

  • Hyd yr amser yr ydych wedi bod yn y carchar.
  • Os yw unrhyw gymorth yn cael ei roi i chi un ai gan y gwasanaethau prawf, tîm troseddu ieuenctid, neu’r tîm cyffuriau ac alcohol.
  • Tystiolaeth a ddarparwyd gan unrhyw drydydd parti (gan gynnwys unrhyw asesiad anghenion tai) am eich risg o ddod yn ddigartref.
  • Hyd yr amser ers i chi gael eich rhyddhau o'r carchar ac os ydych wedi llwyddo i ddod o hyd i lety a'i gadw.
  • Unrhyw rwydweithiau cymorth sydd gennych megis teulu, ffrindiau neu swyddog prawf.
  • Tystiolaeth o unrhyw ffactorau eraill sy’n eich gwneud chi’n agored i niwed megis problemau iechyd meddwl, camddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu hanes o fod mewn gofal.
  • Unrhyw ffactorau eraill all effeithio ar eich gallu i ddod o hyd i gartref yn annibynnol.​

Nid yw’r ffaith eich bod chi wedi bod yn y carchar yn awtomataidd yn golygu y dylem eich trin chi fel rhywun sy'n agored i niwed ac rhywun sydd ag angen â blaenoriaeth am lety. 

Bydd angen i ni ystyried y dystiolaeth yn ofalus a bod yn fodlon y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i gartref a’i gynnal o’i gymharu â phobl eraill sy’n mynd yn ddigartref.
Pan fyddwch yn ymgeisio i ni fel rhywun digartref, bydd ein Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn gwirio i weld os oes gennych gysylltiad lleol â Chaerdydd. 

Gallwch fod â chysylltiad lleol er enghraifft drwy fyw, gweithio neu bod â theulu (fel arfer rhiant, brawd neu chwaer) yn yr ardal. 

Nid yw amser yn y carchar yn rhoi cysylltiad lleol i chi â’r ardal lle lleolir y carchar. 

Os nad oes gennych gysylltiad â Chaerdydd, fel arfer byddwch yn cael eich cyfeirio i’r lleoliad y mae gennych gysylltiad ag ef. Fodd bynnag, os nad oes gennych unrhyw gysylltiad lleol ag unrhyw ardaloedd neu os ydych yn ffoi rhag trais domestig, gallwch ymgeisio i unrhyw gyngor mewn unrhyw ardal. 

Gall fod cyfyngiadau o ran y lleoedd lle gallwch fyw. Mae'n bosibl y bydd angen i garcharorion risg uchel a reolir gan drefn gwarchod y cyhoedd aml-asiantaethol (MAPPA) fyw mewn ardaloedd penodol..
Byddwn yn helpu chi i ddod o hyd i gartref newydd ac yn sicrhau eich bod chi’n gallu fforddio’r rhent cyn i chi lofnodi cytundeb tenantiaeth. 

Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr eiddo o safon dderbyniol ac yn addas ar eich cyfer. 

Rydym yn argymell mynychu ein gweithdai dod o hyd i gartref yn ein hyb cymunedol lleol. 

Bydd eich gweithiwr achos yn rhoi gwybod i chi am y rhain, neu cysylltwch â'chy hyb lleol i gael manylion. 

Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant fel eich bod chi’n deall eich cyfrifoldebau a’ch hawliau fel tenant. 

Siaradwch â’ch gweithiwr achos i gael rhagor o wybodaeth.
Os yw’n amod ar eich rhyddhau eich bod chi’n byw mewn llety cymeradwy, bydd eich swyddog prawf neu reolwr achos yn cyflwyno’r atgyweiriad. 

Dim ond ychydig o garcharorion sy’n cael eu rhyddhau sy’n gorfod byw mewn eiddo cymeradwy. 

Os nad oes rhaid i chi wneud hyn, eich cyfrifoldeb chi yw cael cyngor ynghylch lle byddwch chi’n byw ar ôl cael eich rhyddhau. 

Mae’n bosibl y bydd eich swyddog prawf neu reolwr achos yn gallu rhoi cyngor i chi am eich dewisiadau tai, a gallent gyflwyno atgyfeiriadau ar eich rhan i ddarparwyr tai priodol, ond nid oes ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i roi cartref i chi.





​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd