Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ydych chi’n Cysgu ar y Stryd?

​​​Os ydych yn cysgu ar y stryd neu nad oes gennych unrhyw le i aros ynddo heno cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl ar: 

029 2057 0715


Os ydyw’n achos brys ac y tu allan i oriau swyddfa, cysylltwch â ni drwy ffonio 029 2087 3900

Gall oerni ladd



Mae cysgu ar y stryd yn beryglus ar unrhyw adeg i bobl sydd ar eu pen eu hunain. Os nad oes dewis arall cofiwch:

  • ​Gysgu mewn lleoliad gyda phobl eraill.
  • Cysgu ar flancedi neu sach cysgu, peidiwch byth â chysgu ar y llawr ei hun. Byddai mainc neu gardbord yn well. 
  • Bwyta neu yfed rhywbeth twym cyn i chi fynd i gysgu, bydd hyn yn eich helpu i gynnal gwres.
  • Gorchuddio eich dwylo, traed a phen yn dda.
  • Peidiwch ag yfed alcohol cyn mynd i gysgu. Mae alcohol yn achosi dadhydradu, yn gostwng tymheredd y corff a gall achosi hypothermia a all fod yn angheuol.

Lle i droi i gael cymorth

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau i ddarparu gwasanaethau rheng-flaen sy’n mynd i’r afael â materion megis llety brys, iechyd a chamddefnyddio sylweddau.

Mae’r Gwasanaeth Allgymorth ar waith 7 diwrnod yr wythnos:

  • Dydd Llun a dydd Gwener 6.30am-9pm
  • Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau 6:30am – 12pm

Mae’r penwythnosau yn hyblyg ac yn dibynnu ar y galw.

Weekends are flexing depending on need.

Gallwch ddod o hyd i ni yn y Gwasanaeth ​​Dewisiadau Tai  neu stopiwch ni ar y stryd pan fyddwn ni allan.

Byddwn ni’n eich helpu i:
  • gwblhau cais digartrefedd, 
  • dod o hyd i lety addas 
  • manteisio ar ofal iechyd a chyngor ar fudd-daliadau a thai, a’ch 
  • helpu i fanteisio ar gymorth arall yn ôl y gofyn.

Byddwn yn rhoi cymorth drwy:
  • fentora cymheiriaid (cyswllt un wrth un gyda rhywun sydd â phrofiad o gysgu ar y stryd),
  • eiriolaeth (help gyda materion cyfreithiol) a’ch 
  • helpu i ymgysylltu a gweithgareddau. 

Gallwn hefyd helpu os oes gennych broblemau megis camddefnyddio sylweddau neu anawsterau iechyd meddwl. 

Os nad ydych chi o Gaerdydd, gallwn ni eich helpu chi i ailgysylltu â’ch cymuned leol.​
Gallwn eich helpu i fanteisio ar amrywiaeth eang o lety dros dro, o hosteli i lety â chymorth sy’n benodol i’ch anghenion. 

Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i lety parhaol mewn tai cymdeithasol a phreifat.

Mae gennym nifer fawr o leoedd drwy ein Porth llety:

  • ​61 o unedau llety brys
  • 260 o unedau hostel
  • 330 o unedau llety â chymorth
Mae’r Project Bws yn cynnig:

  • mynediad at ofal a chymorth brys, 
  • bwyd a diodydd poeth, a
  • mynediad at lety brys.

Dydd Llun - ddydd Iau 6:30am - 9pm
Dydd Sul 5.30pm - 8pm

Mae Project Bws Byddin yr Iachawdwriaeth yn parcio y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae’r gwasanaeth dyddiol hwn yn mynd i leoliadau adnabyddus o 7am i weld a oes pobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd a’r dalgylch. 

Mae’r tîm yn rhoi cymorth a chyngor yn ogystal â: 
  • Brecwast, diodydd poeth, sachau cysgu, dillad cynnes, deunyddiau ymolchi a chymorth i ddod o hyd i ddarpariaeth leol arall drwy gydol y dydd a’r nos.
  • Mynediad at wasanaethau arbenigol, gan gynnwys cyngor ar dai, llety â chymorth, cyngor ar fudd-daliadau, gofal iechyd ac atgyfeiriadau at ganolfannau camddefnyddio sylweddau.
Mae’r ganolfan ar agor bob dydd o’r flwyddyn yn cynnig cymorth, cyngor a datblygiad arbenigol.  Mae’r ganolfan yn cynnig:

  • prydau am ddim ac am gost isel 
  • dillad am ddim, 
  • cyfleusterau golchi dillad, a 
  • chyfleusterau glendid personol.

Adeiladau Huggard,
Hansen Street,
Caerdydd,
CF10 5DW
Mae amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd i bobl ddigartref, gan gynnwys y rhai sy’n aros mewn llety dros dro, ar gael yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae gwasanaethau’n cynnwys:

  • Clinig gyda nyrs
  • Ymgynghoriadau ar gyfer diagnosis, triniaeth a thystysgrifau meddygol.
  • Profion iechyd gan gynnwys profion pwysau gwaed, asthma, diabetes, pwysau ac wrin.
  • Gwasanaethau atal cenhedlu, gwasanaethau mamolaeth meddygol a gwasanaethau llawdriniaeth man.
  • Hyrwyddo iechyd rhywiol, brechiadau, hyrwyddo iechyd a gofal iechyd ataliol.

Nid oes angen gwneud apwyntiad.

Mae’r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun - ddydd Gwener 9.30am – 11.30am.
Mae’r Tim Aml-ddisgyblaethol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau, 
  • Gweithwyr iechyd meddwl, 
  • Nyrs, 
  • Cwnsela, 
  • Eiriolwyr digartrefedd sy’n gallu helpu gyda materion cyfreithiol, a  
  • Mentoriaid cymheiriaid (pobl sydd wedi bod trwy brofiad tebyg ac sy’n gallu cynnig help a chefnogaeth).

Mae’r tîm yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd a gall gynnig mynediad yn y fan a’r lle i asesiad, cyngor a chymorth.
Mae Bugeiliaid y Stryd yn wirfoddolwyr hyfforddedig o wahanol eglwysi sy’n gofalu am bobl sydd allan ar stryd, yn gwrando arnyn nhw ac yn eu helpu. 

Darperir y gwasanaeth bob nos Wener a nos Sadwrn o 10am i 4am yng Nghanol y Ddinas.​

​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd