Mae’r Tîm Allgymorth ar strydoedd Caerdydd bob diwrnod yn ymgysylltu â phobl sy’n cysgu ar y stryd neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae’n gweithio ledled y ddinas yn rhoi cefnogaeth uniongyrchol er mwyn cynorthwyo pobl i ddefnyddio gwasanaethau priodol.
Mae’r tîm Allgymorth yn gweithio mewn partneriaeth â:
Gyda’n gilydd, rydym ni’n cynnal cyfarfodydd aml-asiantaeth gyda’n holl bartneriaid Rheng-flaen, Heddlu De Cymru a’r Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol i sicrhau ein bod gennym ni ddigonedd o wybodaeth am gysgwyr ar y stryd, fel y gallwn ni nodi ac ymgysylltu â phobl cyn gynted â phosibl.
Gan weithio ag ystod o bartneriaid, mae’r Tîm Amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu i dargedu’r bobl hynny sy’n cael eu dal yn y cylch digartrefedd di-baid a chyfnodau maith o gysgu ar y stryd.
Mae’r Tîm yn cynnwys:
-
gweithwyr camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl dynodedig,
-
nyrs,
-
gwasanaeth cwnsela,
-
eiriolwr digartrefedd, a
-
mentoriaid sy’n gymheiriaid.
Wedi’i leoli yn y
Gwasanaeth Dewisiadau Tai, bydd y tîm yn cynnig mynediad brys at asesu, cyngor, cymorth ac ymyriadau lleihau niwed i gysgwyr ar y stryd.
Yn gysylltiedig â’r tîm, mae digwyddiad lles amlasiantaethol wythnosol wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â’r
WallichDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Mae cerbyd llesiant yn cael ei barcio yng nghanol y ddinas bob dydd Gwener yn cynnig cyngor a chymorth yn bennaf ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd.
Yn ogystal â’r ystod lawn o wasanaethau a gynigir gan Ganolfan Huggard, mae’r Gwasanaeth Allgymorth hefyd yn cynnig gweithgareddau dargyfeiriol i fanteisio i’r eithaf â’r cyfle i ymgysylltu â phobl sy’n cysgu ar y stryd.
Mae cleientiaid yn cael eu croesawu i leoliad anffurfiol a hamddenol i adeiladu perthnasau cadarnhaol â staff Allgymorth, y Tîm Amlddisgyblaethol a sefydliadau partner.
Mae Caerdydd wedi gweithredu Cynllun Porth sy’n cynnig un pwynt mynediad i unigolion digartref gael llety, gwasanaethau iechyd a chymorth yn
Gwasanaeth Dewisiadau Tai Cyngor.
Mae gennym ni amrywiaeth eang o gymorth a llety i bobl sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
Rydym ni’n gweithredu’r canlynol gyda’n sefydliadau partner:
-
61 welyau brys,
-
260 o leoedd hostelau rheng flaen, a
-
330 o leoedd llety â chymorth.
Caiff y rhan fwyaf o’r llety ei ddefnyddio fel llety dros dro i gleientiaid digartref hyd nes y gellir dod o hyd i ateb mwy addas a pharhaol. Gallai hwnnw fod mewn llety cymdeithasol neu breifat. Gall rhai cleientiaid aros yn y Porth am gyfnod hwy tra bydd eu hanghenion cymorth yn cael eu hasesu.
Mae gwella ein llety yn un o brif nodau’r Strategaeth Cysgu ar y Stryd ac mae nifer o gynlluniau llety arloesol wedi’u llunio i nodi’r bylchau yn y ddarpariaeth.
Tŷ yn Gyntaf
Mae Tŷ yn Gyntaf yn cynnig lleoliadau uniongyrchol mewn tenantiaethau Cyngor, Cymdeithas Tai a sector rhent preifat gyda chymorth dwys a pharhaus.
Pan nad oes gan yr awdurdod ddyletswydd statudol a phan nad oes gan rywun gysylltiad lleol i gael gafael ar lety, cânt eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Ailgysylltu.
Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gynllunio i gefnogi unigolion i ailgysylltu â’u bwrdeistref enedigol, neu i gael gafael ar lety arall drwy’r gwasanaeth.