Rhoi gwybod am wrychoedd a choed sydd wedi gordyfu mewn man cyhoeddus
Gallwch roi gwybod am unrhyw wrychoedd a choed sydd wedi gordyfu mewn man cyhoeddus, gan gynnwys llwybrau cyhoeddus, parciau neu sy'n gorchuddio arwyddion ffyrdd.
Problem gyda gwrych uchel ar eiddo cyfagos
Os oes gennych broblem gyda gwrych uchel cyfagos, cysylltwch â'ch cymydog i siarad â nhw a cheisio datrys y mater eich hun.
Ewch i
GOV.UK Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd am ragor o gyngor.
Galla
cysylltwch â gwasanaeth cyfryngu’r DU Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd am gymorth os na allwch ddatrys y broblem eich hun. Yn enwedig os yw eich cymydog yn gwrthod siarad â chi neu os na allwch ddod i gytundeb.
Gwneud ymholiad
Gallwch gysylltu â C2C ar 029 2087 2087 neu anfon e-bost atom yn
RheoliGwastraff@caerdydd.gov.uk Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd am fwy o gyngor ar ôl rhoi cynnig ar bopeth posibl i ddatrys y broblem.
Cyn gwneud ymholiad
Cyn gwneud ymholiad am broblem gwrych neu goeden sydd wedi gordyfu gyda'ch cymydog:
- siaradwch â'ch cymydog wyneb yn wyneb,
- cysylltwch â'ch cymydog yn ysgrifenedig, a
- rhowch wybod iddynt am eich bwriad i wneud ymholiad gyda ni.
Cadwch gopïau o lythyrau a anfonwch a dyddiadur o sgyrsiau a gawsoch gyda'ch cymydog.
Fel dewis olaf ar ôl rhoi cynnig ar bopeth i ddatrys y broblem, efallai y byddwn yn argymell i chi wneud cwyn yn erbyn eich cymydog os yw'ch achos yn bodloni'r meini prawf derbyn.
Cost gwneud cwyn yw £320 na ellir ei ad-dalu os caiff ei dderbyn.
Er mwyn i'r gŵyn gael ei derbyn, rhaid i'r gwrych neu'r goeden fod:
- ar dir sy'n eiddo i rywun heblaw'r achwynydd,
- yn effeithio ar eiddo domestig,
- yn effeithio ar fwynhad rhesymol yr eiddo domestig,
- yn cael ei godi gan berchennog neu feddiannydd yr eiddo hwnnw,
- yn cynnwys llinell o 2 neu fwy o goed neu lwyni,
- gan fwyaf yn fytholwyrdd neu’n rhannol fytholwyrdd
- dros 2 fetr o uchder o lefel y ddaear, ac
- yn gweithredu fel rhwystr i olau neu fynediad.
Byddwn wedyn yn asesu eich cwyn ac yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi os yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer cwyn ffurfiol.