Os yw perth uchel ar eiddo cyfagos yn achosi problemau i chi, siaradwch â'ch cymydog i geisio datrys y broblem cyn mynd ati i wneud cwyn.
Mae rhagor o gyngor am hyn ar gael ar wefan GOV.UKDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Os nad ydych yn llwyddo i ddatrys yr anghydfod, yna gallwch roi cynnig ar gysylltu â gwasanaeth cyfryngu i gael help.Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Gallwn ni ddelio â’ch cwyn os ydych wedi gwneud y canlynol:
- Rydych wedi ceisio gwneud popeth arall i geisio datrys yr anghydfod cyn cysylltu â ni.
- Rydych wedi dangos eich bod wedi ysgrifennu at berchennog y berth neu’r person sy’n byw yn yr eiddo dan sylw ac mae gennych gofnod o hynny.
- Rydych wedi rhoi gwybod i berchennog y berth neu’r person sy’n byw yn yr eiddo eich bod yn bwriadu cwyno wrth y cyngor.
I wneud cwyn mae’n rhaid i’r berth fod:
- Ar eiddo perchennog tir preswyl arall
- Yn cynnwys rhes o ddwy goeden neu lwyn neu fwy.
- Yn fytholwyrdd neu led fytholwyrdd gan mwyaf.
- Yn fwy na 2 meter oddi wrth lefel y ddaear.
- Yn rhwystro golau neu fynediad.
Os yw eich anghydfod yn ymwneud â choeden ddeilgoll ar eiddo preifat, ni allwn roi unrhyw gamau gweithredu ar waith yn anffodus.
Gwneud cwyn ffurfiol
Os ydych yn penderfynu gwneud cwyn ffurfiol bydd rhaid i chi dalu ffi o £330.
I wneud cwyn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein isod a byddwn yn cysylltu â chi i gynnig cyngor pellach.
Perthi wedi gordyfu mewn mannau cyhoeddus
Gallwch hefyd gysylltu â ni mewn cysylltiad â pherthi a choed tal, megis ar lwybrau cyhoeddus, mewn parciau neu’n gorchuddio arwyddion ffyrdd.