Os ydych chi’n gwneud cais i fyw yn y DU neu’n bwriadu dod ag aelod o’r teulu i fyw yn y DU, efallai y bydd angen i’r awdurdodau mewnfudo wybod am gyflwr yr eiddo rydych yn bwriadu byw ynddo.
Mae hyn i sicrhau bod yr eiddo’n addas i’r nifer o feddianwyr ac nad oes unrhyw beryglon i iechyd, diogelwch a lles y meddianwyr.
Bydd angen i’r wybodaeth hon ddod gan gorff annibynnol megis syrfëwr cymwys neu Swyddog Iechyd yr Amgylchedd.
Rydym yn cynnig y gwasanaeth hwn am £100, y mae’n rhaid ei dalu ymlaen llaw.
Sut i wneud cais am archwiliad
Bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais yn llawn. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosib i sicrhau y caiff eich cais ei dderbyn.
Anfonwch eich ffurflen orffenedig gyda siec am £100, yn daladwy i ‘Cyngor Sir Caerdydd’, i:
Gorfodi Tai
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ND
Gallwch hefyd dalu ag arian parod yn yr un cyfeiriad. Peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Ar ôl i chi gael eich ffurflen orffenedig a’ch taliad, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus am archwiliad. Yn ystod yr archwiliad, bydd angen i ni edrych o gwmpas yr eiddo cyfan.
I gefnogi ein harchwiliad bydd angen y wybodaeth ganlynol arnom:
- enw, rhyw a dyddiad geni’r person sydd am ddod i’r DU,
- perthynas yr ymgeisydd a’r person sy’n dod i’r DU,
- copi o Gytundeb Tenantiaeth neu brawf o berchnogaeth o’r eiddo,
- enwau a dyddiadau geni pawb arall sy’n byw yn yr eiddo,
- Tystysgrif Diogelwch Nwy foddhaol a diweddar ar gyfer yr eiddo, ac
- Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol boddhaol a diweddar ar gyfer yr eiddo.
Byddwn yn ceisio archwilio eich eiddo o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddwn yn rhoi llythyr i chi i’w roi i’r awdurdodau mewnfudo yn nodi bod y tŷ yn addas ar gyfer y nifer arfaethedig o feddianwyr ac unrhyw beryglon y gallai fod angen sylw arnynt.
Os yw’r eiddo ar gyfer tenantiaid, efallai y caiff hysbysiad ei anfon i’r landlord i roi gwybod am waith angenrheidiol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles y meddianwyr.
Gwnewch gais am archwiliad tŷ
Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i wneud cais am archwiliad tŷ.
Cysylltu â ni